Mae’r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
Daw hyn ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.
Bydd Abertawe’n cynnal yr ŵyl chwaraeon sy’n para am wythnos eleni, gyda’r rhan fwyaf o’r cystadlaethau a’r gemau rygbi proffil uchel yn cael eu cynnal ddydd Mercher, Ebrill 27.
Yn ystod yr ŵyl chwaraeon wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau gwahanol ar gyfer gwobr uchel ei bri Tarian Varsity Cymru.
Mae’r campau’n cynnwys ffrisbi eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, paffio, pêl-fasged a hoci.
Ar hyn o bryd, Prifysgol Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, gan iddyn nhw ennill y ddwy yn 2019.
‘Lôn Sgeti’n troi’n wyrdd’
“Mae dychweliad Varsity Cymru’n destun cyffro mawr i mi, yn enwedig gan y bydd Abertawe’n ei gynnal,” meddai Georgia Smith, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
“Ar ôl sawl blwyddyn anodd i fyfyrwyr, rwy’n gwybod y bydd pawb ym Mhrifysgol Abertawe wrth eu boddau pan fydd Lôn Sgeti’n troi’n wyrdd unwaith eto.
“Bydd yn bleser i mi groesawu myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yn ôl i weld y digwyddiad prifysgolion mwyaf yng Nghymru i ddathlu chwaraeon a chystadlu cyfeillgar.
“Rwy’n gofyn i holl fyfyrwyr Abertawe fod yn barod i ganu a bloeddio dros Abertawe a dangos i Gaerdydd werth y Fyddin Werdd a Gwyn!”
“Un o uchafbwyntiau calendr y myfyrwyr”
“Rwy’n falch o gael cymryd rhan yn Varsity Cymru wrth iddo ddychwelyd ar ôl hir ymaros,” meddai Megan Somerville, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletaidd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
“Mae’r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad gwych hwn sy’n galluogi ein clybiau i ddangos eu doniau ar y maes chwarae ac oddi arno.
“Mae’r digwyddiad anferth hwn yn un o uchafbwyntiau calendr y myfyrwyr ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu hen gefnogwyr a newydd-ddyfodiaid i gefnogi Tîm Caerdydd.
“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill ac yn gwylio Caerdydd yn ennill y cwpan a’r darian eto.”
Bydd manylion tocynnau ac amserlen lawn y digwyddiad yn cael eu cyhoeddi maes o law.