Mae amheuon na fydd Taulupe Faletau yn holliach ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Ionawr 31.

Ffrainc yw gwrthwynebwyr cyntaf tîm Warren Gatland, allai orfod ymdopi heb y chwaraewr rheng ôl o ganlyniad i anaf i’w benglin.

Dydy e ddim wedi chwarae yng nghrys coch Cymru ers mis Hydref 2023, ac yntau wedi torri ei fraich a’i ysgwydd yn y cyfnod ers hynny.

Dydy Faletau ddim wedi chwarae dros Gymru ers pymtheg mis o ganlyniad i anafiadau, ac mae Matt Sherratt, prif hyfforddwr ei glwb Rygbi Caerdydd, yn dweud mai “cael a chael” fydd hi ar gyfer y gêm ymhen pythefnos.

Wrth siarad â’r wasg, dywedodd fod Faletau wedi ymuno â charfan Cymru yr wythnos hon er mwyn gwneud gwaith ffisiotherapi a chyflyru.

Mae amheuon hefyd am James Botham, un arall o chwaraewyr rheng ôl Cymru, sydd wedi anafu ei wddf.