Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Sussex o bum wiced ar ddiwrnod ola’r gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Roedden nhw’n cwrso 141 i ennill, ac adeiladodd Sam Northeast a Kiran Carlson bartneriaeth allweddol o 75 ar eu ffordd i’r fuddugoliaeth.

Sgoriodd Sussex 376 yn eu batiad cyntaf, wrth i’r batiwr 20 oed Oli Carter daro 185, ei ganred cyntaf erioed, gyda Tom Clark yn cyfrannu 55.

Cipiodd y troellwr Andrew Salter bedair wiced yn y batiad i Forgannwg.

Ymatebodd Morgannwg gyda 494, gydag Eddie Byrom (176) yn adeiladu record o bartneriaeth o 328 gyda Colin Ingram (178), oedd yn chwarae ei gêm Bencampwriaeth gyntaf ers 2017.

Roedd pedair wiced i Henry Crocombe a thair i Sean Hunt.

Sgoriodd Sussex 258 yn eu hail fatiad, gan gynnwys 83 i Carter a 57 i Delray Rawlins, gan osod nod o 141 i’r sir Gymreig, gyda Sam Northeast (45 heb fod allan) yn llywio’r batiad, a Kiran Carlson hefyd yn sgorio 45.