Bydd Gerwyn Price a Jonny Clayton yn gobeithio efelychu eu camp yn 2020 yng Nghwpan Dartiau’r Byd yn yr Almaen, sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Mehefin 16).

Bydd 32 o wledydd yn cystadlu am y tlws yn Frankfurt yn yr Almaen, gan gynnwys y deiliaid presennol, yr Alban (Peter Wright a John Henderson).

Dyma’r deuddegfed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Bydd yr Alban yn herio Hong Kong (Lok Yin Lee a Ho Tung Ching), tra bydd Gerwyn Price a Jonny Clayton yn wynebu’r Ffilipinas

Michael Smith a James Wade fydd yn cynrychioli Lloegr, sydd heb ennill Cwpan y Byd ers 2016, a byddan nhw’n herio’r Weriniaeth Tsiec (Adam Gawlas a Karel Sedlacek).

Bydd yr Iseldiroedd yn wynebu Brasil, tra bydd Dimitri Van den Bergh a Kim Huybrechts yn cynrychioli Gwlad Belg yn erbyn Japan.

Bydd Damon Heta a Simon Whitlock yng nghrys Awstralia yn erbyn Lithwania dan arweiniad Darius Labanauskas, tra bydd Daryl Gurney a Brendan Dolan yn cynrychioli Gogledd Iwerddon.

Gabriel Clemens a Martin Schindler fydd yn cynrychioli’r Almaen yn erbyn Sbaen, gyda Mensur Suljevic a Rowby-John Rodriguez yn cynrychioli Awstria.

Denmarc a Singapôr (Adrian Lim a Harith Lim) fydd yn agor y gystadleuaeth.

William O’Connor a Steve Lennon fydd yn cynrychioli Gweriniaeth Iwerddon yn erbyn Jeff Smith a Matt Campbell o Ganada.

Gwlad Pwyl (Sebastian Bialecki a Krzysztof Ratajski) fydd yn wynebu’r Unol Daleithiau (Danny Baggish a Jules van Dongen).

Bydd Seland Newydd yn herio’r Swistir, tra bydd Latfia (dan arweiniad Madars Razma) yn wynebu Hwngari.

Bydd y rownd gyntaf heno a nos fory (nos Wener, Mehefin 17), yr ail rownd ddydd Sadwrn (Mehefin 18), a rownd yr wyth olaf, y rownd gyn-derfynol a’r rownd derfynol ddydd a nos Sul (Mehefin 19).

Bydd y cyfan yn fyw ar Sky Sports.

‘Y Cymry cyntaf i ennill Cwpan y Byd’

“Fe wnaeth e roi cymaint o hyder i fi, a hyder y galla i berfformio ar y llwyfan mwyaf,” meddai Jonny Clayton o Bontyberem am lwyddiant Cymru yn 2020.

Aeth yn ei flaen i ennill pedwar tlws ar y teledu y flwyddyn ganlynol.

“Ni oedd y chwaraewyr cyntaf o Gymru i ennill Cwpan y Byd, a bydda i bob amser yn cofio hynny.

“Mae’r Cymry’n bobol falch iawn, ac mae ennill rhywbeth a chael dod ’nôl â fe i Gymru’n deimlad anhygoel.

“Byddai’n freuddwyd cael ei wneud e eto.”