Mae diplomat o Gymru wedi cael y fraint o godi’r Ddraig Goch yn Qatar i ddathlu’r ffaith fod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Cafodd seremoni fawr ei chynnal yn Doha neithiwr (nos Iau, Mehefin 17) i nodi’r tair gwlad olaf i gymhwyso, sef Cymru, Awstralia a Costa Rica.

Bydd Cymru’n herio Lloegr, yr Unol Daleithiau ac Iran yng Ngrŵp B ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Daniel Phillips yn gweithio yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha fel Dirprwy Gyfarwyddwr Masnach a Buddsoddi, ac fe gafodd e’r fraint o godi baner Cymru ar bromenâd Corniche.

Dydy Cymru ddim wedi cyrraedd Cwpan y Byd ers 1958.

“Roedd hi’n fraint ryfeddol i fi gael codi’r faner ar ran Cymru, wrth i ni edrych ymlaen at fod yng Nghwpan Pêl-droed y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd,” meddai.

“Llongyfarchiadau enfawr i bawb yn nhîm Cymru.

“Fel un o Fae Cemaes ym Môn, rwy’n gobeithio y gall Cymru adeiladu ar eu llwyddiant yn yr Ewros yn ddiweddar a gosod stamp gwirioneddol ar y twrnament.”

Cyngor ynghylch teithio

Cyn dechrau Cwpan y Byd, bydd y Swyddfa Dramor yn cyhoeddi cyngor teithio i gefnogwyr sy’n awyddus i fynd i Qatar.

Maen nhw’n annog unrhyw un sy’n bwriadu teithio i ddarllen eu cyngor ymlaen llaw, ac i gofrestru ar gyfer negeseuon am deithio.

“Bydd pawb yma yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha yn dymuno’r gorau i’r ddau dîm o’r gwledydd cartref trwy gydol y twrnament,” meddai Alex Cole, y Llysgennad dros dro.

“Dylai unrhyw gefnogwyr o Gymru sy’n ystyried teithio ddarllen ein Cyngor Teithio i Qatar.

“Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol am Gwpan y Byd, ac fe fydd yn cael ei ddiweddaru drwy gydol y flwyddyn.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod cefnogwyr yn hollol barod drwy gynnig cyngor a chanllawiau ymarferol, i leihau problemau gymaint â phosib a’u helpu nhw i fwynhau’r twrnament.”

‘Pob lwc’

“Mae’r tîm Cymru hynod o dalentog hwn eisoes wedi creu hanes drwy gymhwyso ar gyfer ein Cwpan Byd cyntaf ers 64 o flynyddoedd, ac mae’n wych gweld y faner genedlaethol yn cael ei chodi yn Qatar,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Rwy’n dymuno pob lwc i Rob Page a’i chwaraewyr wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru ar y llwyfan mwyaf yn y byd pêl-droed yn ddiweddarach eleni.”