Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson, paralympwraig fwyaf llwyddiannus Cymru, yn un o chwe aelod newydd o fwrdd Clwb Criced Swydd Efrog.

Mae’r clwb yn ceisio symud ymlaen o’r helynt hiliaeth sydd wedi bod yn gysgod drostyn nhw ers tro yn dilyn honiadau gan Azeem Rafiq a fu’n destun ymchwiliad yn San Steffan ac yn y byd criced.

Fe wnaethon nhw gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol heddiw (dydd Sadwrn, Mai 28), gyda’r nod o sicrhau mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau’r bwrdd.

Hefyd yn ymuno â’r bwrdd mae Yaseen Mohammed, Kavita Singh, Lucy Amos, Leslie Ferrar a Nolan Hough.

Yn un o’r para-athletwyr gorau yn hanes Prydain, mae Tanni Grey-Thompson yn byw yn Stockton-on-Tees yn Swydd Durham.

Enillodd hi 11 medal aur, pedair medal arian a medal efydd yn y Gemau Paralympaidd yn ystod ei gyrfa.

Ers ymddeol, mae hi wedi dal sawl rôl yn y byd gweinyddu chwaraeon a’r byd gwleidyddol, gan gynnwys bod yn rhan o ymchwiliad annibynnol i ofal a lles yn y byd chwaraeon.

“Ceisiodd nifer o ymgeiswyr cryf dros ben am y chwe rôl cyfarwyddwr anweithredol hyn – cawsom hen ddigon o ddewis,” meddai’r Arglwydd Kamlesh Patel, cadeirydd Clwb Criced Swydd Efrog.

“Cafodd y chwech ymgeisydd hyn eu hargymell i’r aelodau i’w penodi ar ôl proses ddethol wydn, gadarn a theg.

“Rwyf wrth fy modd o gael croesawu’n gydweithwyr chwe unigolyn sy’n dod ag ystod eang o sgiliau, doniau, profiadau a gwybodaeth i lywodraethiant Clwb Criced Swydd Efrog ar adeg hanfodol yn hanes y clwb.

“Ein nod ar y cyd fel bwrdd yw arwain newidiadau trawsnewidiol yn y clwb, a chynnig goleuni i’r gamp ar y cyfan, fel bod criced yn dod yn gêm i bawb, yn Swydd Efrog yr unfed ganrif ar hugain a ledled y wlad.”

Azeem Rafiq

Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn cydnabod methiannau ar ddechrau Wythnos Cydraddoldeb Hiliol

Cafodd y gymdeithas eu beirniadu gan Azeem Rafiq, sydd wedi gwneud honiadau o hiliaeth sefydliadol yn erbyn Clwb Criced Swydd Efrog
Azeem Rafiq

Canslo cyfarfod Clwb Criced Swydd Efrog i drafod hiliaeth a llywodraethiant

Fe ddaeth i’r amlwg nad oedden nhw wedi dilyn y gweithdrefnau cywir wrth alw’r cyfarfod
Ottis Gibson

Cyn-fowliwr cyflym Morgannwg yw prif hyfforddwr newydd Swydd Efrog

Mae Ottis Gibson, sy’n hanu o India’r Gorllewin, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd
Azeem Rafiq

Argymell atal arian cyhoeddus i griced oni bai bod yr awdurdodau’n mynd i’r afael â hiliaeth

Pwyllgor seneddol wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i helynt Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Clwb Criced Swydd Efrog
Azeem Rafiq

Hyfforddwr dros dro Swydd Efrog yn ymddiheuro am awgrymu y dylid “anghofio” am yr helynt hiliaeth

Ryan Sidebottom yn cyfaddef iddo ddewis “geiriau gwael” wrth siarad â Sky Sports
Azeem Rafiq

Clwb Criced Swydd Efrog wedi’i gefeillio gyda thîm o Bacistan ar ôl helynt hiliaeth

Gobaith y bydd y bartneriaeth gyda’r Lahore Qalandars yn “lleihau’r rhwystrau i bobol ifanc” o’r gymuned Asiaidd i fentro i’r byd criced
Azeem Rafiq

Ymchwiliad annibynnol i lywodraethiant Clwb Criced Swydd Efrog

Fe ddaw yn sgil yr honiadau diweddar o hiliaeth sefydliadol