Mae Prem Sisodiya, troellwr llaw chwith tîm criced Morgannwg, yn teimlo eu bod nhw’n “brin o rediadau” wrth iddyn nhw golli o bedair wiced yn erbyn Middlesex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Radlett.

Fe wnaeth y chwaraewyr ifainc Thilan Walallawita a Joe Cracknell helpu Middlesex i gipio’u trydyedd buddugoliaeth allan o dair gêm.

Cipiodd Walallawita, y troellwr llaw chwith, dair wiced am 18, sef ffigurau gorau ei yrfa, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 168 yn eu hugain pelawd, gyda Toby Roland-Jones hefyd yn cipio pedair wiced am 22.

Prin fod neb o Forgannwg wedi cyfrannu’n helaeth gyda’r bat, gyda Marnus Labuschagne yn brif sgoriwr gyda 38.

Tarodd Cracknell 47 i Middlesex, gyda Max Holden hefyd yn sgorio 41 wrth i Middlesex gwrso’r nod yn gyfforddus.

Cipiodd Sisodiya ddwy wiced am 26 i Forgannwg, serch hynny.

Ond collodd Morgannwg wicedi’n rhy aml o lawer, er i Labuschagne a Kiran Carlson lwyddo i adeiladu partneriaeth o 55 gyda chyfres o ergydion i’r ffin wrth gyflymu’r gyfradd sgorio rywfaint.

Ond ar ôl i’r ddau golli eu wicedi, cipiodd Walallawita dair wiced mewn dwy belawd i adael Morgannwg yn 122 am saith cyn i James Weighell sgorio 30, gan gynnwys tair chwech enfawr.

Ond roedd Middlesex yn hedfan erbyn diwedd y cyfnod clatsio chwe phelawd, gan gyrraedd 62 heb golli wiced cyn i Sisodiya a’i gyd-droellwr Andrew Salter gipio wicedi cyflym.

Arhosodd Cracknell yn gadarn, serch hynny, ond fe gafodd ei fowlio wrth geisio ergyd chwech i gyrraedd ei hanner canred oddi ar fowlio’r troellwr coes Labuschagne.

Ond cyrhaeddodd Middlesex y nod yn ddigon cyfforddus gyda phelawd yn weddill.

‘Cryn frwydr’

“Dw i’n credu i ni ddangos cryn frwydr,” meddai Prem Sisodiya.

“Mae’n gae i sgorio’n gyflym arno, lle maen nhw wedi gwneud yn eitha’ da yn ddiweddar ac, o edrych yn ôl, roedden ni ychydig [o rediadau] yn brin gyda’r bat.

“Fe gawson nhw 230 yma y noson o’r blaen ac fe wnaethon nhw hedfan rywfaint heddiw.

“Mae’n lle anodd i amddiffyn sgôr.

“Roedd angen ychydig yn rhagor o bartneriaethau arnon ni yn y canol gan y byddai 10 i 15 yn rhagor wedi ein helpu ni i fynd â hi i’r belawd olaf.

“Roedd hi’n braf heddiw, yn bersonol, i daro’n ôl ar ôl i fi gael fy nghlatsio rywfaint ar yr Oval, ond dyna i chi griced T20 lle gall unrhyw un eich tynnu chi i lawr ar unrhyw ddiwrnod, a bod yn onest.”