Daeth cadarnhad y bydd Robert Lewandowski yn dechrau i Wlad Pwyl yn erbyn Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno (nos Fercher, Mehefin 1), gyda’r gic gyntaf am 5 o’r gloch.
Mae e wedi sgorio 75 o goliau mewn 129 o gemau dros y wlad, a’r cefnwr de Chris Gunter fydd yn cael y pleser o’i gysgodi.
Mae’r rheolwr Czesław Michniewicz yn dweud ei fod e’n bwriadu dewis y tîm cryfaf posib ar gyfer y gêm, gyda phedwar amddiffynnwr.
Mae’n dweud bod angen “cryn brawf” ar Kamil Jóźwiak, ond na fydd Matty Cash, sy’n chwarae i Aston Villa, ar gael tan y gêm yn erbyn Gwlad Belg.
Bydd y gêm heno’n gyfle i Lewandowski, sydd yn awyddus i adael Bayern Munich, ddechrau paratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni, ar ôl i’w wlad gymhwyso eisoes drwy’r gemau ail gyfle.
Bydd yn rhaid i Gymru aros tan ddydd Sul i wybod a fyddan nhw’n hawlio’u lle yn y gystadleuaeth yn Qatar eleni hefyd.
Ond un fydd yn canolbwyntio ar y dasg sy’n ei wynebu yn Wrocław heno yw Chris Gunter.
“Fel chwaraewr, rydych chi’n troi i fyny i wneud eich gwaith,” meddai.
“Os, a phryd cewch chi’ch dewis i chwarae dros eich gwlad, rydych chi’n teimlo’n wirioneddol freintiedig i wneud hynny.
“Dw i’n gwybod na fydd gennym ni’r un tîm am y pum gêm nesaf, ond pan fydd y chwiban yn chwythu, bydd y paratoadau a’r ffocws union yr un fath.”
Wrth gadw un llygad ar y gêm yn erbyn yr Alban neu Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5), mae’n debygol y bydd Rob Page yn dewis rhoi seibiant i Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Dan James, Connor Roberts a Neco Williams, gyda Brennan Johnson yn ymuno â’r garfan yn hwyr o ganlyniad i gêm ail gyfle Nottingham Forest y penwythnos diwethaf, gyda Sorba Thomas hefyd yn ymuno’n hwyr o Huddersfield.