Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Josh Marsh yn Bennaeth Gweithrediadau Pêl-droed, ac mae’n olynu’r cyn-Gyfarwyddwr Chwaraeon Mark Allen.

Mae Marsh, sy’n 30 oed, yn ymuno o Huddersfield, ac fe fydd e’n gyfrifol am weithrediadau a gwasanaethau pêl-droed, ac yn cydweithio’n agos â’r prif hyfforddwr Russell Martin a’r prif weithredwr Julian Winter.

Yn rhinwedd ei swydd, fe fydd e’n gyfrifol am holl adrannau pêl-droed y clwb, gan gynnwys recriwtio chwaraewyr.

Yn ôl Julian Winter, Josh Marsh oedd “yr ymgeisydd oedd yn sefyll allan ar gyfer y rôl”, ac yntau’n “unigolyn disglair ac uchelgeisiol”.

Dywed Russell Martin fod gan Marsh “wybodaeth a phrofiad da iawn, yn enwedig ym maes recriwtio”, a’i fod e “wedi gwneud gwaith ardderchog yn ei holl hen glybiau, yn enwedig Huddersfield”.

Gyrfa

Ar ôl graddio o Goleg Hartpury, ymunodd Josh Marsh â rhengoedd ieuenctid Wrecsam cyn dod yn sgowt gyda Wolves a Southampton.

Symudodd i Huddersfield yn 2016 yn brif sgowt, ac roedd yn allweddol yn eu dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2017, cyn cael ei benodi’n Bennaeth Recriwtio’r clwb yn ddiweddarach.

Dywed ei bod hi’n “fraint ac yn anrhydedd” cael derbyn y swydd gydag Abertawe, “clwb sydd â hunaniaeth mor gryf a hanes o lwyddo”.

Mae’n dweud bod yr “ysfa i wneud cynnydd a bod yn llwyddiannus” wedi ei ddenu i’r clwb.

Abertawe’n penodi cyn-chwaraewr ieuenctid Wrecsam yn Bennaeth Gweithrediadau Pêl-droed

Mae Josh Marsh, 30, yn olynu Mark Allen, y cyn-Gyfarwyddwr Chwaraeon