Fe fydd Eddie Ladd yn ôl ar y sgrin eto heno (nos Iau, 9 Mehefin) – 30 mlynedd ar ôl iddi greu argraff fawr ar y genedl wrth gyflwyno’r gyfres arloesol Fideo 9 yn yr 1980au.
Hi yw cyflwynydd y darllediad byw misol newydd Noson Gelf / Art Night, sy’n cael ei gynhyrchu gan griw Culture Colony mewn partneriaeth â’r wefan gelfyddydol AM.
Mae’r rhaglen pum awr o hyd yn cael ei ffrydio yn fyw o stiwdio Culture Colony ym Machynlleth, a bydd yn gymysgedd o raglen Gymraeg a Saesneg, gyda gwesteion, newyddion ac adolygiadau.
Hefyd, bydd clipiau ffilm newydd am artistiaid hen a newydd, ‘yn cynrychioli ystod eang y celfyddydau yng Nghymru’.
“Mae hyn fel western Clint Eastwood,” meddai Eddie Ladd, “lle mae hen gunslinger sydd wedi ymddeol yn dychwelyd am one last job.”
Arlwy’r noson gyntaf
Bydd y cyfan yn dechrau am 5.30pm gydag Eddie Ladd yn ein croesawu yn fyw yn y stiwdio, ac yn rhoi rhestr o ddigwyddiadau’r noson, fel y gall pobol nodi’r hyn sy’n eu diddori a dychwelyd yn hwyrach pe dymunen nhw.
Dros yr awr nesaf fe fydd portread gan Lowri Page o’i thad, y cerflunydd Stephen Page; ffilm am y peintiwr Karen Birkin; ymweliad â chanolfan gelfyddydol Plas Bodfa ym Môn; Neil Lebeter yn trafod gwaith curadu Amgueddfa Cymru; a ffilm gan Liam Rees am yr artist Kathie Cooper, neu ‘Costello’.
Bydd Eddie Ladd yn ei hôl am 6.30pm gyda chyfweliadau, newyddion ac adolygiadau, a bydd y bardd Sam Robinson yn cadw cwmni iddi yn y stiwdio. Wedyn am 7.30pm, bydd cyfle i wylio perfformiad yr awdur Eric Ngalle Charles yng Ngŵyl Amdani, Machynlleth; ac yna cyfres o ffilmiau – Peter Lord yn sgwrsio am ei waith cynnar sydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar hyn o bryd; Richard Harris yn sgwrsio am ei arddangosfa yn Grizedale; a gwaith y cwiltiwr Ruth Singer yng nghanolfan Llantarnam.
Ailymunwn ag Eddie Ladd am 8.30pm, yng nghwmni’r perfformiwr theatr Bethan Dear. Am 9.30pm bydd cyfle i weld ffilm o waith Eddie Ladd ei hun, Iâs, lle buodd yn teithio o gwmpas Ceredigion gyda fan hufen iâ, ac yn canu emynau ar hyd y ffordd. I gloi am 10pm, sgwrs rhwng David Nash a Peter Murray, sylfaenydd Parc Cerfluniau Swydd Efrog.
Gallwch wylio Noson Gelf / Art Night ar wefan www.amam.cymru