Mae Johnny Bond, gitarydd Catfish and the Bottlemen, a gafodd ei ffurfio yn Llandudno, wedi cadarnhau ei fod wedi gadael y band gan “nad oedd dewis ond cerdded i ffwrdd”.
Mewn neges ar Instagram, cadarnhaodd Bond ei fod wedi gadael ym mis Mawrth 2021 ond camodd i’r adwy fel gitarydd sesiwn ar gyfer pedair sioe yr haf diwethaf.
Disgrifiodd y neges sut yr oedd yn teimlo bod “y perthnasoedd proffesiynol a phersonol wedi dod yn gwbl gamweithredol”, a daeth ymddygiad rhai yn “annioddefol”.
Dywedodd Bondy, fel y mae’n cael ei adnabod gan gefnogwyr, ei fod wedi derbyn nifer fawr o ymholiadau am ddyfodol y band, ond nad oedd yn gysylltiedig â nhw bellach.
Roedd disgwyl i’r band gefnogi’r Stereophonics a Tom Jones yn Stadiwm y Principality yn ddiweddar oherwydd ond roedden nhw wedi canslo gan roi’r bai ar “amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth”.
Mae Johnny Bond wedi diolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth.
Dywedodd: “Rydych chi wedi rhoi rhai profiadau anhygoel i mi a fydd yn aros gyda mi am byth ac mae gen i gariad a pharch enfawr tuag atoch chi i gyd.”
Cafodd y band, a ffurfiwyd yn Llandudno, sir Conwy, yn 2007 eu henwi’n act arloesol orau Prydain yng Ngwobrau Brit 2016.
Mae disgwyl iddyn nhw berfformio yng Ngŵyl Reading a Leeds ym mis Awst.