Fel rhan o ddathliadau Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn 25 mlwydd oed, mae drama newydd wedi cael ei chreu yn seiliedig ar fywyd y cyn-Brif Weinidog o Lanystumdwy.

Manon Steffan Ros a Mari Elen, gyda chymorth myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor, sydd wedi gweithio ar ddrama Dai, a bydd hi’n cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos nesaf (Mehefin 23).

Er bod bron i ganrif wedi pasio ers i David Lloyd George ddod yn brif weinidog ar y Deyrnas Unedig, roedd y trefnwyr yn awyddus i sicrhau bod y ddrama’n berthnasol i bobol heddiw drwy gydweithio â phobol ifanc.

Derbyniodd Amgueddfa Lloyd George grant Gaeaf Llawn Lles gan Lywodraeth Cymru, drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru i greu’r ddrama.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y perfformiad cyntaf,” meddai Megan Corcoran, Cydlynydd Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd, am y ddrama, sy’n rhan o raglen ehangach y cwmni theatr Mewn Cymeriad.

“Mae’r gwaith wedi bod yn bosib ar ôl sicrhau grant Gaeaf Llawn Lles fel rhan o waith o gefnogi prosiectau sy’n cefnogi a chyfoethogi bywydau pobl ifanc Cymru yn dilyn y pandemig.

“Mae’r grant yma wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu a chreu drama un-dyn yn seiliedig ar hanes y Prif Weinidog Lloyd George.”

‘Drama berthnasol’

“Er bod bron i ganrif ers i Lloyd George fod yn Brif Weinidog, roeddem am sicrhau fod y ddrama yn berthnasol i ni heddiw. Dyna pam y aethpwyd ati i gael barn pobl ifanc oedd ar drothwy defnyddio eu pleidlais gyntaf,” ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys.

“Mae mewnbwn myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli wedi bod yn bwysig wrth i’r dramodydd Manon Steffan Ros fwrw ati i ddatblygu’r stori a chreu’r ddrama, a fydd yn serennu’r actor Carwyn Jones.”

Mi fydd perfformiad cyntaf y ddrama yn digwydd yn y Neuadd yn Llanystumdwy ar 23 Mehefin. Yn dilyn y ddrama, bydd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Manon Steffan Ros a’r dramodydd Mari Elen yn arwain y sgwrs ar y broses o ffurfio’r ddrama gyda  myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor. Yn ogystal, bydd cyfle i’r gynulleidfa hefyd ymuno â’r trafod.

Y dramodydd sy’n dathlu gwrachod Cymru

Cadi Dafydd

“Dw i’n cofio bod yn obsessed efo’r bobol greadigol. Ar ddiwedd sioe fysa nhw’n dod allan i’r foyer, ac roedd ganddyn nhw ddillad anhygoel”