Ddydd Sadwrn, Mehefin 25, bydd canol tref Porthmadog yn cael ei thrawsnewid wrth i’r ardal ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ymhen ychydig dros flwyddyn.

Bydd y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau’n cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Michael Strain, yn ystod seremoni draddodiadol yr Orsedd sy’n dilyn gorymdaith drwy dref Porthmadog yng nghwmni sefydliadau lleol.

Y bwriad yw adlewyrchu’r croeso cynnes i’r Eisteddfod yn yr ardal, a hynny gyda thros flwyddyn i fynd tan y Brifwyl ei hun.

Mae amryw o weithgareddau wedi’u trefnu i gyd-fynd â’r Cyhoeddi’i hun, gan gynnwys sgyrsiau am yr Eisteddfod i ddysgwyr, gweithgareddau i blant a phobol ifanc yn y Parc yng nghanol Porthmadog, a ffilm arbennig gan ysgolion y rhanbarth fydd yn cael ei dangos ar sgrîn fawr yn y Parc yn ystod y dydd, cyn Seremoni’r Cyhoeddi a’r Orymdaith yn ystod y prynhawn.

Amserlen y dydd

10:00 Cwrs yn cyflwyno’r Eisteddfod i ddysgwyr yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog

11:00-13:00 Gweithgareddau i blant a phobol ifanc yn y Parc, Porthmadog

13:30 Dangos ffilm arbennig gan ysgolion y rhanbarth yn y Parc

14:30 Gorymdaith yr Orsedd drwy Stryd Fawr Porthmadog

15:00 Seremoni’r Cyhoeddi yn y Parc

Mae’r pwyllgorau lleol wrthi ers misoedd yn paratoi gŵyl sy’n rhoi rhagflas o’r Eisteddfod i drigolion yr ardal, fel eu bod nhw’n barod am yr wythnos fawr ymhen y flwyddyn.

Mae rhestr o’r gweithgareddau i gyd ar gael drwy fynd i https://eisteddfod.cymru/2023-rhaglen-cyhoeddi.

‘Un o draddodiadau Cymru’

Meddai Michael Strain, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, wrth edrych ymlaen at y Cyhoeddi, “Mae’r Cyhoeddi yn un o draddodiadau Cymru,” meddai Michael Strain, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

“Mae’n gyfle i bobol ddod ynghyd i ddathlu bod yr Eisteddfod ar ei ffordd i’r ardal.

“Ychydig iawn sydd wedi newid yn y digwyddiad yma dros y blynyddoedd, a dyma sy’n ei wneud yn unigryw ac yn hynod draddodiadol.

“Ein gwaith ni dros y flwyddyn nesaf yw denu pobol Llŷn, Eifionydd a thu hwnt i ddod i’r Eisteddfod ym Moduan.

“Mae’r ŵyl wedi newid cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn, mae’n cael ei hystyried fel un o’r gwyliau mawr, gyda’r cystadlu yn galon iddi, a gweithgareddau eraill o bob math yn digwydd o’i chwmpas.

“Rydyn ni wedi bod wrthi’n gweithio’n galed yn lleol ers misoedd lawer yn codi ymwybyddiaeth ac arian a braf yw gweld bod cymaint o gefnogaeth yma i’r Eisteddfod yn barod.

“Diolch i bawb sydd eisoes wedi bod yn rhan o’r paratoadau a diolch i’r Cyngor sydd wedi cefnogi’r gwaith dros y misoedd diwethaf.

“Mae’n argoeli’n arbennig o dda ar gyfer y misoedd nesaf, a gobeithio y daw pobl o Gymru gyfan atom i fwynhau’r Cyhoeddi y penwythnos nesaf.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli o Awst 5-12 y flwyddyn nesaf.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron o Orffennaf 30 i Awst 6 eleni.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.