Dyma stori bortread a ymddangosodd yn ddiweddar yng nghylchgrawn Golwg, ac rydym yn ei chyhoeddi am ddim ar wefan golwg360 i bawb gael ei darllen. Byddwn yn codi’r wal dalu ar erthyglau’r cylchgrawn o bryd i’w gilydd, er mwyn i bawb gael blas bach o’r arlwy…
Theatr Ardudwy yn Harlech oedd cyflwyniad cyntaf Mari Elen Jones i fyd y ddrama.
Ar ôl mynychu dosbarthiadau yno fel merch o Harlech, mae Mari – sy’n byw ym mhentref bach Cwm-y-glo ger Llanberis – bellach yn gweithio fel dramodydd a gwneuthurwr theatr.
Ynghyd â gweithio’n llawrydd yn y maes, mae Mari hefyd yn holi rhai o fenywod ysbrydoledig Cymru ar ei phodlediad, Gwrachod Heddiw.
Gan bod ganddi riant yn gweithio yn Theatr Ardudwy pan oedd Mari’n blentyn, roedd hi’n mynd efo’i mam i’w gwaith yn aml, ac yn cael gweld sioeau am ddim a bod o gwmpas pobol greadigol.
“Roedd yna ryw deimlad creadigol yna, a dw i’n cofio bod yn obsessed efo’r bobol greadigol. Ar ddiwedd sioe fysa nhw’n dod allan i’r foyer, ac roedd ganddyn nhw ddillad anhygoel a dw i’n cofio meddwl: ‘Dw i eisiau bod fel yna pan dw i’n hŷn’… Dydw i ddim o gwbl, ond dyna le wnaeth y diddordeb ddechrau!
“Mae gan mam gymaint i’w ateb [amdano] o ran fi a’r person ydw i, dw i ddim yn meddwl y bysa gen i’r diddordebau sydd gen i oni bai bod mam wedi dechrau gweithio yn y theatr.
“Roedd mam yn Gyfarwyddwr Artistig yn [y theatr yn] Harlech am gyfnod, ar ôl dechrau yn y swyddfa docynnau, a dw i’n cofio hi’n blaenoriaethu bod pobol ifanc yn cael cyrsiau drama achos ei bod hi’n gwybod fy mod i’n licio drama.
“Roedd Theatr Ardudwy yn rhan gwbl hanfodol o fy magwraeth i ac fe wnaeth o roi gofod saff i fi – a lot o bobol eraill yn ochrau Ardudwy, Ffestiniog, Eifionydd – i gael mynegi fy hun yn greadigol a chael profiadau anhygoel efo Carys Huw a Mair Tomos Ifans ac ati.”
Aeth Mari yn ei blaen i astudio Perfformio a Theatr ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, a chael “tair arweinydd ofnadwy o gryf” yn Sera Moore Williams, Rhiannon Williams a Dr Lisa Lewis.
Mae gwaith Mari’n amrywio o ddydd i ddydd, o sgrifennu dramâu i gynhyrchu’r podlediad i gynnal gweithdai creadigol mewn ysgolion.
Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol ar broject Ar y Dibyn, sy’n gyfres o weithdai creadigol gyda phobol sydd wedi bod yn gaeth i alcohol a chyffuriau.
“Dydy o ddim yn gorfod bod yn sgrifennu,” meddai am y project. “Y broses o greu sy’n bwysig, a rhoi’r amser yna i ganolbwyntio ar y dasg o greu rhywbeth. Mae o’n ffordd o feddylgarwch dw i’n meddwl.”
Un o brif atyniadau’r theatr i Mari yw cael gwrando ar bobol yn rhannu eu gwirioneddau nhw am y byd.
“Bythefnos yn ôl es i i wylio Milky Peaks gan Seiriol Davies ac roedd o’n dweud gymaint, ond dweud gymaint drwy lais Seiriol, sy’n llais doniol, carismatig, eithriadol o greadigol.
“Fe wnaeth o wneud fi’n emosiynol, gwneud i mi grïo, gwneud fi’n flin… a phŵer theatr ydy hynny. Pŵer mynd mewn i theatr a rhannu profiad efo pobol o dy gwmpas, rhannu profiad efo’r actorion ar y llwyfan, y cyfarwyddwyr, sgrifennwyr.
“Mae o’n gwneud i fi deimlo’n fyw.”
Pwrpas ei phodlediad, Gwrachod Heddiw, yw dathlu merched Cymru a cheisio canfod pa nodweddion y maen nhw’n eu rhannu gyda gwrachod.
“Dw i jyst yn meddwl bod gwrachod yn destun mor eang – ti ddim yn gorfod meddwl am y peth mewn ffordd draddodiadol. Gei di ddehongli gwrach sut bynnag wyt ti eisiau.
“Wnes i ddweud wrth fy ffrind fy mod i ddim yn cael diwrnod da iawn unwaith, ac fe wnaeth hi decstio’n ôl yn dweud: ‘Dyna sy’n gwneud chdi’n wrach mor anhygoel, achos dy fod di’n dallt dy deimladau a dy emosiynau’.
“Wrth i fi ddechrau ystyried fy hun fel gwrach, fe wnes i ddechrau ystyried pobol eraill dw i’n adnabod fel gwrachod.
“I fi, mae gwrachod yn bobol sy’n adnabod gwerth eu hunain, maen nhw’n driw i’w hunain, a dydyn nhw ddim yn cydymffurfio efo disgwyliadau cymdeithas.
“Mae yna rywbeth mor braf am roi bys fyny i gymdeithas weithiau a bod yn driw i chdi dy hun, felly roeddwn i eisiau dathlu’r merched sy’n gwneud hynna.”
Er bod yna res o enwau cyfarwydd wedi ymddangos ar y podlediad yn barod, fyddai Mari wrth ei bodd yn cael cyfweld y wrach ffuglennol Rala Rwdins neu Michaela Coel, oedd yn gyfrifol am y gyfres I May Destroy You.
Llynedd enillodd Gwrachod Heddiw y wobr arian yn y British Podcast Awards, ac fe gafodd Mari wahoddiad i fod yn westai ar bodlediad comedi The Guilty Feminist efo Felicity Ward a Deborah Frances-White.
“Mae pob dim dw i’n ei wneud efo’r podlediad, dw i’n ei wneud o ar ben fy hun a dw i’n buddsoddi pres mewn iddo fo,” eglura.
“Pan wnes i ei gychwyn o roeddwn i wedi colli fy ngwaith i gyd oherwydd y pandemig, ac fe wnes i ei wneud o fel ffordd o drio cael fy enw i allan yna.
“Roeddwn i’n stryglo ar y pryd, ac roeddwn i eisiau dathlu’r merched roeddwn i’n weld yn llwyddiannus yn ein cymdeithas a siarad am sut roedden nhw, ella, yn teimlo eu bod nhw wedi methu, fel roeddwn i ar y pryd.
“Aeth hi o fi ben fy hun yn y gegin yn siarad dros Zoom efo pobol, i fod yn Llundain unwaith mewn gwobrau efo pobol fel Fearn Cotton, ac yr eildro yn gwneud podlediad byw The Guilty Feminist mewn gŵyl fawr efo dwy gomediwraig ti’n weld ar y teledu.
“Roedd o fel bod y pethau yma’n digwydd i fi ond roedd o fel fy mod i ddim yn sylwi eu bod nhw’n digwydd tan ar ôl iddyn nhw ddigwydd.”
Tu hwnt i fyd y ddrama a’r podledu, mae Mari yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser rhydd â’i phlant, dau o hogiau, ond o bryd i gilydd mae hi’n “chwarae efo geiriau”.
“Dw i ddim yn eu galw nhw’n farddoniaeth fy hun. Dydy o ddim yn fi’n siarad lawr am fy hun, ond dw i ddim yn cyfri fy hun yn fardd.
“Dw i’n gweld fy hun yn ffitio geiriau at ei gilydd.”