Mae’r actor 24 oed yn teithio’r wlad gyda chwmni theatr Arad Goch yn actio’r cymeriad chwedlonol Twm Sion Cati, y lleidr direidus o Dregaron.

Ar hyn o bryd mae yn byw ym mhentref lan-y-môr Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, gyda’r bwriad o symud i Gaerdydd ym mis Awst…

Sut brofiad yw actio Twm Sion Cati? 

Cyffroes ofnadwy, cyfle unwaith mewn bywyd.

Rydw i wedi dwli ar y storïau ers pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd.