Mae gormod o argymhellion ar gyfer ymchwil pellach yn hytrach na chamau gweithredu mewn adroddiad newydd ar ail gartrefi, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru wedi bod yn ymchwilio i’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd mewn ymateb i’r argyfwng.

Dywed eu hadroddiad newydd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil pellach ar yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar gymunedau yng Nghymru.

Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil ar effaith Brexit a phandemig Covid-19 ar dueddiadau tai i asesu’r graddfa mae pobol yn symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.

Yn ôl yr adroddiad mae hi’n amhosibl gwybod faint yn union o ail gartrefi sydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn y rhagair i’r adroddiad, dywed John Griffiths AoS, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: “Mae ein hymchwiliad wedi’i gynnal mewn cyd-destun esblygol, pan fo mater ail gartrefi wedi bod yn fwy amlwg nag erioed, a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ymgynghoriadau a chamau i gynorthwyo cymunedau yr effeithir arnynt, gan gynnwys cynllun peilot sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn Nwyfor.

“Yn yr adroddiad hwn rydym yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru, ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a’r cyfleoedd y mae’r cynllun peilot yn Nwyfor yn eu cynnig i gael gwell dealltwriaeth o’r effaith y gall newidiadau polisi a newidiadau deddfwriaethol eu cael.”

“Dim awgrym o frys”

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Mae cael cartref yn broblem real ac yn broblem nawr, ond does dim awgrym o frys yn yr argymhellion, dim ond gofyn am ddiweddariadau am gynlluniau sy’n bodoli yn barod, cynnal ymchwiliadau pellach a chreu comisiwn newydd, nad yw’n glir beth fydd ei rôl.

“Mae’r adroddiad fel petai’n awgrymu y bydd gwerthusiad llawn o’r cynllun peilot yn Nwyfor ar ddiwedd y cynllun ac mai dim ond wedi hynny y bydd mesurau yn cael eu hehangu.

“Pam na ellid dechrau rhoi mesurau llwyddiannus ar waith yn ehangach yn syth? Ble mae’r brys?”

“Gwneud gwahaniaeth”

Fodd bynnag, mae Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, un o gymdeithasau tai gogledd Cymru, wedi croesawu’r  adroddiad.

Fel rhan o’r ymchwil, bu Shan Lloyd Williams yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru ym mis Mawrth eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i redeg cynllun peilot yn ardal Dwyfor i geisio lliniaru’r argyfwng tai yno.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei arwain gan Grŵp Cynefin.

“Mae Grŵp Cynefin yn falch o fod wedi cyfrannu tuag at ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ail gartrefi ag yn benodol argymhellion adroddiad a ysgrifennwyd gan Dr Simon Brooks oedd yn sail i’r ymchwiliad,” meddai.

“Fel rhan o’r cynllun peilot yn ardal Dwyfor, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at weithredu a gwneud gwahaniaeth trwy weithio gyda chymunedau a phartneriaid i daclo’r materion sydd yn dylanwadu ar y farchnad dai lleol sydd wedi arwain at yr argyfwng tai gwledig.”