Mae’n “rhaid wrth” Senedd gryfach, medd Plaid Cymru ar drothwy pleidlais ar ddiwygiadau sy’n cynnwys cynyddu nifer yr Aelodau ym Mae Caerdydd i 96.
Byddai’r drefn newydd yn gweld mwy o Aelodau’n cael eu hethol drwy system gyfrannol a chwotâu rhywedd erbyn 2026.
Pe bai’r diwygiadau’n cael eu derbyn, gallai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i lunio Mesur Diwygio’r Senedd.
Yn ôl Rhys ab Owen, llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad, mae’r bleidlais ddydd Mercher (Mehefin 8) yn “gyfle” i sicrhau Senedd sy’n llwyddo ar ran Cymru ac sy’n rhoi “hwb” i ddemocratiaeth, ond hefyd yn gwneud y Senedd “yn fwy grymus, yn decach ac yn fwy cynrychioladol”.
“Ers tro, mae Plaid Cymru wedi bod yn hybu grymuso ein senedd genedlaethol ac ers blynyddoedd, rydym yn dadlau bod y Senedd, ar hyn o bryd, yn rhy fach i gyflawni ei rôl o ddwyn llywodraeth y dydd i gyfrif,” meddai.
“Mae’r bleidlais heddiw’n gyfle i sicrhau senedd a fydd yn gweithio i Gymru.
“Mae rôl a chyfrifoldebau’r Senedd wedi newid yn sylweddol ers iddi gael ei sefydlu gyntaf yn 1999, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ei bod hi o’r maint priodol i allu cwblhau ei swyddogaeth o graffu.
“Bydd gan Senedd gryfach fwy o allu i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobol ledled ein cenedl.
“Bydd hefyd yn rhoi hwb i’n democratiaeth – gan ei gwneud yn fwy grymus, yn decach, ac yn fwy cynrychioladol ac yn adlewyrchiadol o holl leisiau a dyheadau cymdeithas Cymru.
“Yn union fel tîm pêl-droed Cymru, rydym wedi gweld hyder yn tyfu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
“Hyder yn ein senedd genedlaethol – yn ein gallu i wneud pethau’n wahanol.
“Felly nid cael mwy o wleidyddion yw hyn, ond grymuso’n senedd mwy – a’i gwneud hi’n addas i gynrychioli’n pobol.
“Dydy Senedd gryfach ddim yn rhywbeth moethus i’w gael. Mae’n rhaid wrth [Senedd gryfach].
“Gobeithio y byddwn yn cymryd y cam hwnnw heddiw, yn union fel y gwnaeth y tîm gymryd cam ddydd Sul, tuag at yr eiliad honno sy’n newid y gêm.”
Cynnig y Senedd:
- Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, ‘Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobol Cymru’
- Yn rhoi sêl bendith i’r argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi ar gyfer deddfwriaeth ar Ddiwygio’r Senedd mewn da bryd ar gyfer etholiadau nesa’r Senedd yn 2026.
- Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i ystyried nifer o faterion yn ymwneud â diwygio’r Senedd.
Argymhellion y pwyllgor
Adroddodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar eu hargymhellion ar Fai 30.
Dywed y pwyllgor y dylid cyflwyno’r diwygiadau erbyn etholiadau nesa’r Senedd yn 2026.
Mae’r cynnig yn argymell 96 o Aelodau yn y Senedd, rhestrau cyfrannol caëedig, dosbarthu seddau yn ôl fformiwla d’Hondt, cwotâu rhywedd ac annog pob plaid i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant o leiaf chwe mis cyn etholiad.
Mae hefyd yn argymell fod y 32 etholaeth derfynol ar lefel Senedd y Deyrnas Unedig a gafodd eu hargymell gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cael eu defnyddio yn y Senedd hefyd ar ôl cwblhau Adolygiad Seneddol 2023; ac fel rhan o hyn fod 16 etholaeth aml-aelod yn cael eu sefydlu.
Yn ogystal, dylid cynnal adolygiad ffiniau llawn yn ystod y tymor hwn yn y Senedd, meddai’r adroddiad, a bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu o 2031, gan gynnwys gorfodaeth i gynnal adolygiadau o ffiniau’n achlysurol ac yn ôl disgresiwn pe bai angen.
Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru’n nodi y dylid cyflwyno Mesur Diwygio’r Senedd o fewn 12 i 18 mis ar ôl i’r Pwyllgor Diben Arbennig adrodd yn ôl, ac fe wnaeth Plaid Cymru ymrwymo i weithredu argymhellion yr adroddiad yn eu maniffesto.
Galw am refferendwm
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am refferendwm ar gynyddu nifer Aelodau’r Senedd i 96.
Daeth yr alwad gan Darren Millar wrth iddo herio’r prif weinidog Mark Drakeford i roi’r cynigion gerbron pobol Cymru.
Yn gynharach y mis hwn, ymddiswyddodd e o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar ôl i’r cynigion gael eu hamlinellu, gan ddadlau bod argymhellion y pwyllgor yn ofer.
Mae’r blaid yn dadlau y byddai’r cynnig yn costio hyd at £100m i drethdalwyr dros gyfnod o bum mlynedd.
“Dydy pobol Cymru ddim wedi pleidleisio o blaid y newid hwn,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.
“Heddiw, rydym yn sefyll i fyny dros ddemocratiaeth Cymru ac yn galw am refferendwm ar y newid mwyaf i ddemocratiaeth Cymru ers 1999.
“Mae teuluoedd sy’n gweithio’n galed ledled Cymru ar hyn o bryd yn wynebu costau byw cynyddol, rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd sy’n gwaethygu, ac incwm isel, a’r peth diwethaf sydd ei angen arnyn nhw yw cynnydd yn nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd.”
Yn ôl Darren Millar, byddai’r newidiadau hyn yn cyflwyno “newid radical dw i ddim yn credu ei fod yn cael ei gefnogi gan bobol Cymru”.
Mae’n dadlau nad oedd sôn am ragor o wleidyddion na diddymu’r system ‘cyntaf i’r felin’ ar gyfer etholiadau i’r rhan fwyaf o Aelodau’r Senedd ym maniffesto Llafur cyn yr etholiadau.
“Gan nad oes mandad cyhoeddus i wneud y newidiadau sylweddol hyn i’r system bleidleisio, dylen nhw fod yn destun refferendwm i roi llais i’r bobol,” meddai.
“Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal refferendwm pan gafodd newidiadau mawr yn system bleidleisio Senedd y Deyrnas Unedig eu cynnig, a dylai Llywodraeth Lafur Cymru ddangos yr un cwrteisi i bobol Cymru.”
“Dau gam ymlaen ac un yn ôl”
Er bod Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn dweud eu bod yn “cefnogi camau nesaf y broses i ddiwygio’r Senedd”, mae hi’n gofidio bod cynigion Llafur a Phlaid Cymru’n “cymryd dau gam ymlaen ac un yn ôl”.
“Does dim amheuaeth fod y Senedd yn edrych yn wahanol iawn i sut yr oedd yn 1999,” meddai.
“Os yw ein senedd genedlaethol am wneud ei gwaith yn effeithiol, rhaid iddi gael yr arfau i wneud hynny mor effeithiol â phosibl, drwy gynyddu maint y Senedd a darparu system bleidleisio decach sy’n sicrhau mwy o amrywiaeth, atebolrwydd a thryloywder.
“Rwy’n cefnogi egwyddor y cynigion ond yn poeni y byddwn yn cymryd dau gam ymlaen ac un yn ôl.
“Mae cynigion Llafur a Phlaid Cymru yn cynrychioli cyfle mawr yn cael ei golli.
“Drwy gyhoeddi’r cynigion yr oedden nhw am eu gweld yn cael eu cyflwyno cyn i’r pwyllgor orffen ein gwaith, tanseiliodd arweinwyr Llafur a Phlaid Cymru’r broses.
“Mae ganddynt hefyd gwestiynau i’w hateb ynghylch pam eu bod wedi symud mor bell oddi wrth dystiolaeth ac argymhellion Panel Arbenigol 2017.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu y dylai’r Senedd ethol aelodau gan ddefnyddio dull STV a defnyddio cynghorau lleol fel sail i ffiniau etholaethau, gan sicrhau bod pleidleisiau yn cyfateb i seddi, a bod gwleidyddion yn fwy atebol i’w hetholwyr.
“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi camau nesaf y broses i ddiwygio’r Senedd.
“Byddwn yn defnyddio pob cyfle sydd ar gael i ni adeiladu ar y cynigion i roi’r Senedd yn y sefyllfa orau i gefnogi democratiaeth fywiog, Cymru hunan lywodraethol hyderus, a Chymru ffyniannus, heddiw ac yn y dyfodol.”