Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd mesurau ymyrraeth wedi’u targedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd hefyd.

Daw’r penderfyniad ar ôl cyfarfod teirochrog fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac mae’n dilyn pryderon parhaus yn ymwneud â’r bwrdd iechyd mewn nifer o feysydd.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd hefyd wedi gofyn i’r bwrdd iechyd adolygu’r capasiti presennol o ran llywodraethu, archwilio ac effeithiolrwydd, a gweithio gyda Gwelliant Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen addysg a chymorth gyflym i wella sgiliau.

Mae gofyn hefyd iddo sicrhau bod penodiad uwch yn cael ei wneud i swydd Cyfarwyddwr Diogelwch a Gwelliant, a bydd yr unigolyn hwn yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio newydd i sicrhau gwelliannau a rhannu mesurau llywodraethu ar draws y bwrdd iechyd.

Bydd cyfarfod teirochrog arall yn cael ei gynnal ar ddiwedd mis Hydref fan bellaf.

Y mesurau

Bydd y mesurau ymyrraeth wedi’u targedu yn:

  • Cefnogi newid diwylliant ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd
  • Parhau i fonitro gwasanaethau fasgwlaidd canolog
  • Symud arweinwyr clinigol cenedlaethol i Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd i fynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • Comisiynu asesiad annibynnol o’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn adolygiadau iechyd meddwl diweddar.

‘Penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol’

Yn ôl Eluned Morgan, “mae’r penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac amlwg am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu, a’r cynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd a’r adran frys”.

“Hoffwn sicrhau’r cleifion a’r cymunedau y mae’r bwrdd iechyd yn eu gwasanaethau a’r staff sy’n gweithio ynddo, na fydd gwasanaethau o ddydd i ddydd yn cael eu heffeithio mewn modd negyddol,” meddai.

“Fodd bynnag, bydd y bwrdd yn ystyried meysydd sylweddol o bryder.

“Gan ystyried natur ddifrifol ac eithriadol yr uwchgyfeirio hwn, caiff y trefniadau hyn eu monitro’n agos a’u hadolygu’n gynnar i sicrhau cynnydd.”