Fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn mynd dan fesurau arbennig.

Roedd disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig alw yn y Senedd am hynny, mewn ymgais i fynd i’r afael â’r hyn mae’r blaid yn ei alw’n “fethiannau hanesyddol”.

Cafodd mesurau arbennig eu cyflwyno yn 2015 yn dilyn cyfres o broblemau, gan gynnwys adroddiad damniol i wasanaethau iechyd meddwl.

Ond nid dyna ddiwedd eu helyntion.

Daeth y bwrdd iechyd allan o’r mesurau arbennig am gyfnod byr fis Tachwedd 2020, chwe mis cyn etholiadau’r Senedd, ond daeth rhagor o adroddiadau am fethiannau yng ngwasanaethau’r galon, unedau brys ac agweddau eraill ar berfformiad.

Yn 2018, daeth Adolygiad Ockenden i’r casgliad fod yna “cryn achos i boeni” ers sefydlu’r bwrdd iechyd am systemau, strwythurau a phrosesau llywodraethiant y bwrdd iechyd mewn perthynas ag ystod eang o wasanaethau oedd yn cael eu cynnig ganddyn nhw.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd wedi tynnu sylw at broblemau arweinyddiaeth a llywodraethiant yn fwy diweddar.

Ar ddechrau’r pandemig Covid-19, roedd 96,000 o bobol yn y gogledd yn dal i aros am driniaeth, ac fe gododd y ffigwr i 156,000 erbyn hyn.

Methiannau

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw at fethiannau difrifol yng ngwasanaethau’r galon y bwrdd iechyd, yn dilyn adroddiad damniol arall gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ynghylch canoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.

Daethon nhw o hyd i fethiannau mewn gofal, cadw cofnodion, ceisio caniatâd a dilyniant ar gyfer nifer o achosion.

Tynnodd yr adroddiad sylw at “ddiffyg urddas” rhai cleifion, yn ogystal ag un achos lle’r oedd claf mewn perygl.

Bu’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn tynnu sylw at record y bwrdd iechyd o ran iechyd meddwl, gan fod ganddyn nhw’r ail amserau aros gwaethaf yng Nghymru, gyda dau o bob tri o blant a phobol ifanc yn aros mwy na’r targed o 28 diwrnod ar gyfer asesiad ym mis Mawrth.

Fe fu adroddiadau hefyd o gynghori pobol i yrru cleifion i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael strôc ac o ganlyniad i amserau aros hir am ambiwlans.

Bu’n rhaid i glaf arall aros yn eu car ym maes parcio’r ysbyty dros nos ag emboledd posib ar yr ysgyfaint ac er y gallai eu bywyd fod wedi bod mewn perygl, doedd dim monitro wedi digwydd drwy gydol y nos.

‘All gogledd Cymru ddim fforddio aros chwe blynedd arall’

“Mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr newid, ac yn gyflym felly,” meddai Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae cleifion a staff wedi cael eu siomi am yn rhy hir gan arweinyddiaeth wael Llywodraeth Cymru a rhai rheolwyr uwch ac mae wedi rhoi bywydau mewn perygl.

“Mae’n hollol amlwg fod y penderfyniad i dynnu’r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiadau’r Senedd yn hollol wleidyddol.

“Nawr, mae angen i ni sicrhau bod Betsi yn cael ei roi o dan becyn o fesurau arbennig diwygiedig gyda’r arweinyddiaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r methiannau hyn unwaith ac am byth.

“All gogledd Cymru ddim fforddio aros chwe blynedd arall i’r problemau hyn gael eu datrys.”

Ymyrraeth

Ond yn hytrach na mesurau arbennig, mae’r bwrdd yn wynebu ymyrraeth, sydd un cam i ffwrdd o hynny.

Wrth egluro’r pendefyniad, dywedodd Eluned Morgan y byddai ymyrraeth yn sicrhau cydweithio yn hytrach na gorfodi’r bwrdd i weithredu.

Gall ymyrraeth ganolbwyntio ar adrannau penodol neu’r bwrdd iechyd cyfan, yn ôl yr angen.