Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig “am barhau allan o gysylltiad â phobol Cymru”.

Daw ei sylwadau ar ôl i bob Aelod Seneddol Cymreig o’r blaid gefnogi Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wrth iddo wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth neithiwr (nos Lun, Mehefin 6).

Pleidleisiodd pob un o’r 359 o Aelodau Seneddol yn San Steffan, a phan gafodd y canlyniad ei gyhoeddi gan Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, fe ddaeth i’r amlwg fod 211 wedi dangos ffydd yn eu harweinydd, tra bod 148 yn ei wrthwynebu.

Pe bai e wedi colli’r bleidlais, fe fyddai ras arweinyddol wedi’i chynnal.

Mae lle i gredu bod pob Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru wedi ei gefnogi.

‘Plaid Geidwadol ranedig yn cynnal Boris Johnson’

“Mae’r sefyllfa’n gliriach nag erioed o’r blaen, fod Plaid Geidwadol ranedig yn cynnal Boris Johnson heb unrhyw gynllun i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r cyhoedd yng Nghymru,” meddai Jane Dodds.

“Mae’n dal i fod yn un rheol iddyn nhw a rheol arall i’r gweddill ohonom.

“Mae Boris Johnson yn gelwyddgi ac yn droseddwr nad yw’n ffit i aros yn Brif Weinidog am eiliad yn rhagor.

“Mae Ceidwadwyr bore oes wedi’u ffieiddio ac yn parhau i droi tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol y maen nhw’n gwybod y byddan nhw’n gweithio’n galed ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig.

“Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig am barhau allan o gysylltiad â phobol Cymru.”

Boris Johnson

Boris Johnson wedi ennill pleidlais o hyder

Allan o 359, roedd 211 o’i blaid, a 148 yn erbyn

“Mae’n bryd symud y prif weinidog anonest hwn o’i swydd”

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn ymateb ar drothwy pleidlais bosib o ddiffyg hyder yn erbyn Boris Johnson

“Mae’n dweud cyfrolau nad oes yr un AS Ceidwadol o Gymru wedi galw ar i Boris Johnson ymddiswyddo”

“Rhaid gofyn ai parch at eu hetholwyr neu ofn chwipiaid y Blaid Geidwadol sy’n penderfynu pa ffordd maent yn pleidleisio?”