Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol.

Heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 7), bydd gweinidogion yn cyhoeddi ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol’ i fynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.

Gan ddefnyddio profiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o hiliaeth ac anghydraddoldeb hil, mae’r Cynllun yn nodi cyfres o gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol.

Mae’r camau gweithredu’n canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf, ac wedi’u gosod yn erbyn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae’r Cynllun yn mabwysiadu dull gweithredu gwrth-hiliol, sy’n golygu ystyried sut mae hiliaeth yn rhan o’u polisïau, eu rheolau a’u rheoliadau ffurfiol ac anffurfiol, a’r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio.

Mae’n canolbwyntio ar y ffyrdd mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobol ethnig leiafrifol, megis eu profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd, wrth ddefnyddio gwasanaethau ac fel rhan o’r gweithlu, ynghyd â phrinder modelau rôl gweladwy mewn swyddi grymus.

Mae’r Nodau a’r Camau Gweithredu yn y Cynllun yn cwmpasu meysydd polisi ar draws y llywodraeth, gan gynnwys iechyd, diwylliant, cartrefi a lleoedd, cyflogadwyedd a sgiliau ac addysg, yn ogystal â chanolbwyntio ar arweinyddiaeth a chynrychiolaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Mae ymrwymiad i fynd i’r afael â hiliaeth yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

‘Dim baich ar bobol ethnig leiafrifol i weithredu eu hunain’

“Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol wedi’i seilio ar werthoedd Gwrth-hiliaeth, ac yn galw am gymryd camau o ran ein polisïau a’n ffyrdd o weithio, yn hytrach na rhoi’r baich ar bobl ethnig leiafrifol i weithredu eu hunain,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

“Lluniwyd y Cynllun ar y cyd gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan fanteisio ar eu profiad bywyd, ac fe gafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru, ar sail tystiolaeth.

“Rydyn ni’n gwybod bod angen inni sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd pobol Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed, ac ar ben hynny ein bod yn gweithredu ar yr hyn a glywir.

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau nad mater o ddweud y pethau iawn yn unig yw hyn.

“Mae’r Cynllun yn alwad i weithredu, yn gynllun all gyflawni o ddifri ar gyfer pobol ethnig leiafrifol.

“Dyna pam mae gennym nodau ac amcanion penodol, yn amrywio o arferion mewnol Llywodraeth Cymru i newidiadau polisi uchelgeisiol ar draws Adrannau hefyd.

“Bydd y camau gweithredu a nodir yn y Cynllun yn helpu i hyrwyddo marchnad gyflogaeth decach, system addysg a hyfforddiant decach, sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau mwy cyfartal mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol eraill, a sicrhau dinasyddiaeth weithredol.”

Camau mewn ysgolion

“Rwy’ wedi ymrwymo i adeiladu system addysg gwrth-hiliol, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol gwrth-hiliol ar draws y system. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

“Byddwn hefyd yn cryfhau prosesau casglu data ynghylch digwyddiadau hiliol ac achosion o aflonyddu hiliol mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys manylion sut yr ymdriniwyd â nhw, y camau a gymerwyd, ac a fu datrysiad llwyddiannus i’r dioddefwr.

“Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac adlewyrchu profiadau ein dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn well yn ein gwaith.”

Rhaglen Cefnogi Diogelwch

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod dros bedair gwaith yn fwy o wahaniaeth yn y cyfraddau o ran marwolaethau mamau ymhlith menywod o gefndiroedd ethnig Du o hyd, a bron dwy waith o wahaniaeth yn y cyfraddau ymhlith menywod o gefndiroedd ethnig Asiaidd o’u cymharu â menywod gwyn,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

“Un o’r camau i fynd i’r afael â hyn yw creu Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, a fydd yn datblygu ymyriadau wedi’u cyd-gynllunio a’u datblygu gyda phobl a rhanddeiliaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.”

“Bydd y Rhaglen yn nodi a gweithredu newidiadau penodol i wasanaethau mamolaeth a fydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau menywod a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.”

‘Newid ystyrlon’

“Mae’r gwaith o gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon eisoes wedi dechrau ar draws sefydliadau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Cefnogir hyn gan gyllid o £4.25 miliwn  dros y tair blynedd nesaf drwy lansio cynllun grant arloesol a fydd yn cwmpasu ein cyrff cenedlaethol a noddir, cynllun grant cystadleuol ar draws ein sectorau a chronfa wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad.”

“Gan weithio ar lefel genedlaethol, yn lleol ac ar lawr gwlad, ein nod yw sicrhau newid ystyrlon i bobol Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru.”

‘Mwy na dim ond geiriau cynnes’

“Rydyn ni’n benderfynol o gyflawni dros bawb gyda’r Cynllun hwn,” meddai Siân Gwenllian, yr Aelod Dynodedig.

“Mae’n fwy na dim ond geiriau cynnes, mae’n amlinellu camau gweithredu clir i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru Wrth-Hiliol.

“Mae’r weledigaeth sydd wrth wraidd y cynllun hwn, i gyflwyno cenedl wrth-hiliol, yn anfon neges bwysig ar draws y Llywodraeth, ar draws y sector cyhoeddus ac ar draws cymdeithas na fydd Cymru’n goddef hiliaeth strwythurol a sefydliadol.

“Rydyn ni’n ymrwymo ein harweinyddiaeth a’n hadnoddau, a’n dylanwad, i gyflawni’r weledigaeth hon.

“Rydyn ni’n gwybod mai dim ond dechrau proses hir yw hyn, a bod angen help ein cymunedau i greu’r Gymru Wrth-hiliol yr ydym i gyd am fyw ynddi, a ffynnu ynddi.

“Os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, byddwn yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddathlu amrywiaeth a byddwn yn symud ymlaen i ddileu anghydraddoldeb o bob math.”

‘Dim lle i hiliaeth’

“Mae hiliaeth yn ffiaidd a does dim lle iddi yng Nghymru,” meddai Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldebau’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym ers 23 o flynyddoedd, ac mae eu hanallu i fynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ei galw’n ‘hiliaeth systemig’ yn fethiant uniongyrchol ganddyn nhw.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu.

“Ddylai cefndir person ddim bod yn rhwystr i lwyddiant, ac rydym yn falch o gael yr Aelod benywaidd cyntaf o leiafrif ethnig yn y Senedd.”