Roedd mwy o bobol wedi cael eu troi allan o’u cartrefi yng Nghatalwnia nag yn unman arall yn Sbaen yn ystod tri mis cyntaf 2022, yn ôl gwefan newyddion Catalan News.
Cafodd 2,410 o bobol eu troi allan i gyd, sy’n cyfateb i un person bob 55 munud, yn ôl ffigurau cyngor cenedlaethol y farnwriaeth.
Yng Nghatalwnia mae un ym mhob pump o’r cyfanswm o bobol gafodd eu troi allan yn Sbaen yn byw (21.8%), sy’n fwy na Valencia (1,863), Andalusia (1,858) a Madrid (1,005).
Yn wahanol i’r don o bobol gafodd eu troi allan wedi’r wasgfa ariannol yn 2008, mae tri ym mhob pedwar achos yn ymwneud â methu â thalu rhent yn hytrach na rhybuddion ymlaen llaw i bobol adael eu cartrefi.
Yn Barcelona, “prifddinas troi allan Sbaen”, cododd cost rhentu fflat i fod yn 30 gwaith yn fwy na chyflogau pobol rhwng 2015 a 2019.
Ond fe gwympodd rhent yn sgil y pandemig o 964.81 Ewro i 918.84 Ewro yn 2021.
Mae’r cynnydd mewn rhent yng Nghatalwnia, yn enwedig Barcelona, wedi’i wthio i frig yr agenda gymdeithasol a gwleidyddol, ac mae troi pobol allan, yn enwedig gyda’r heddlu wrth law, yn dod yn fwy cyffredin erbyn hyn, hyd yn oed pan oedd bwriad i ofalu am bobol fregus yn ystod y pandemig.