“Mae’n dweud cyfrolau nad oes yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi galw ar i Boris Johnson ymddiswyddo,” yn ôl Liz Saville Roberts, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ar drothwy pleidlais o hyder yn Boris Johnson.

Mae hi’n gofyn “ai parch at eu hetholwyr neu ofn chwipiaid y Blaid Geidwadol sy’n penderfynu pa ffordd maent yn pleidleisio?”, gan rybuddio y byddai cefnogi Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn y bleidlais yn golygu bod aelodau Ceidwadol “yn gyd-euog o’i gam-weithredu yn llygaid y cyhoedd”.

Mae Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, wedi derbyn digon o lythyrau gan aelodau seneddol i allu cynnal y bleidlais heno (nos Lun, Mehefin 6).

Ond mae adroddiadau bod rhai sydd am weld pleidlais yn cael ei chynnal wedi gofyn na fyddai’r bleidlais yn digwydd tan ar ôl dathliadau Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr.

Daw’r bleidlais yn dilyn sawl sgandal yn Downing Street dros y misoedd diwethaf, nid lleiaf y partïon a gafodd eu cynnal yno tra bod gwledydd Prydain dan glo o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

‘Diffyg awdurdod a hygrededd’

“Mae gwleidyddiaeth Brydeinig wedi tanseilio gan gelwyddau ac arian budr ers blynyddoedd, ond mae Boris Johnson wedi llwyddo i chwalu ffydd mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion fel ei gilydd gyda’i hanes cywilyddus o dor-gyfraith ac anwiredd trwy gydol ei gyfnod fel prif weinidog,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth golwg360 cyn y bleidlais.

“Er bod mwyafrif (59%) o bobl eisiau gweld Boris Johnson yn gadael Rhif 10 am y tro olaf, mae’n dal ei afael yn ei swydd, a hynny er gwaetha’i ddiffyg awdurdod a hygrededd.

“Mae rhywbeth llwgr iawn am drefn San Steffan, lle mae’r penderfyniad ynghylch ffawd y Prif Weinidog di-egwyddor yn gorwedd yn nwylo’r sawl sy’n fwyaf ofnus o’i weld yn disgyn, sef Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol.

“Mae eu hawydd i ddiogelu’u gyrfaoedd yn fwy pwysig iddynt na’u dyletswyddau tuag at eu hetholwyr a’u cymunedau.

“Hen bryd iddynt fagu asgwrn cefn a cael gwared ohono neu nhw hefyd fydd yn gyd-euog o’i gam-weithredu yn llygaid y cyhoedd.

“Mae’n dweud cyfrolau nad oes yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi galw ar i Boris Johnson ymddiswyddo: rhaid gofyn ai parch at eu hetholwyr neu ofn chwipiaid y Blaid Geidwadol sy’n penderfynu pa ffordd maent yn pleidleisio?”

“Mae’n bryd symud y prif weinidog anonest hwn o’i swydd”

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn ymateb ar drothwy pleidlais bosib o ddiffyg hyder yn erbyn Boris Johnson