Mae gofyn i drigolion yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion leisio eu barn ar gynigion i leihau llifogydd mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio’n sylweddol, sef Llanybydder, Llandysul a Phont-Tyweli.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, wrth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn awyddus i gael adborth i ddeall prosesau llifogydd yn well ac asesu gwahanol opsiynau i leihau llifogydd yn dilyn tywydd stormus cynyddol yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae’r tair cymuned wedi dioddef nifer o lifogydd, gan gynnwys Storm Callum yn 2018 pan gafodd eiddo preswyl a masnachol eu heffeithio, a ffyrdd eu cau.
Yn dilyn Storm Callum, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ac wedi nodi rhai opsiynau posibl ar gyfer lleihau llifogydd.
Mae’r cynigion yn amrywio o fesurau naturiol i reoli llifogydd, adeiladu argloddiau, amddiffynfeydd uwch, sianeli lliniaru llifogydd a strwythurau rheoli i ddiogelu eiddo unigol ac amddiffynfeydd dros dro.
Bydd adborth o’r rhaglen ymgysylltu ar-lein sy’n cael ei chynnal o Fehefin 6 i Orffennaf 18 yn cyfrannu at gam nesaf y gwaith a bydd yn llunio rhan o unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud.
‘Annog adborth’
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Diben y rhaglen ymgysylltu hon yw dangos i drigolion yr amrywiaeth o opsiynau rydym yn bwriadu eu harchwilio ymhellach a chael eu hadborth arnynt, yn enwedig o ran eu hymarferoldeb i reoli perygl llifogydd, a sut y gallai atebion posibl fod yn addas i’r amgylchedd lleol,” meddai’r Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith Cyngor Sir Caerfyrddin.
“Mae’r gwaith hwn yn dilyn yr asesiadau cychwynnol blaenorol a gwblhawyd ar ddiwedd 2020.
“Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd hyn i roi eu hadborth.”
Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen ymgysylltu ar-lein ewch i’r tudalennau ymgynghori ar y wefan y cyngor sirgar.llyw.cymru/ymgynghori