Mae Mudiad Meithrin ac Addysg Oedolion Cymru’n cydweithio i hyfforddi mwy o athrawon blynyddoedd cynnar i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y bartneriaeth yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol yn Sesiwn Ti a Fi yn y Drenewydd ddydd Iau (Mehefin 9), ac yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar safle Ysgol Dafydd Llwyd.
Bydd oddeutu 30 o ddysgwyr yn cychwyn ar eu cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 ym mis Mai drwy’r bartneriaeth hon.
Bydd y cydweithio yma yn ychwanegiad pwysig i bortffolio Mudiad Meithrin yn y maes darpariaethau hyfforddi a chymhwyso.
“Mae’r bartneriaeth hon yn cynyddu’r opsiynau sydd ar gael i oedolion gymhwyso yn y maes Gofal Plant,” meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu.
“Ry’n ni’n falch iawn o fedru cydweithio â chorff cenedlaethol Addysg Oedolion Cymru i sicrhau fod mwy o bobol yn medru cael mynediad at y cwrs yma.
“Mae prinder staffio yn dal i fod yn her mewn sawl Cylch Meithrin a Meithrinfa Ddydd ac felly mae’r cydweithio yma’n cyfrannu ymhellach at sicrhau fod gennym ni weithlu cymwys, cyfrwng Cymraeg yn ein lleoliadau gofal plant.”
‘Cefnogaeth lawn’
Bydd y Mudiad yn darparu cefnogaeth lawn i bob dysgwr drwy eu tîm cenedlaethol o aseswyr profiadol.
Yn ychwanegol at hynny, bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ac adnoddau dysgu a datblygu unigryw ar gael i bob dysgwr.
Bydd dysgwyr yn cael eu cyflogi gan y lleoliad tra’n cymhwyso dros y 18 mis ac felly yn elwa o gyfleoedd hyfforddiant a dysgu proffesiynol parhaus Academi Mudiad Meithrin.
“Mae Addysg Oedolion Cymru yn gyffrous iawn wrth gychwyn partneriaeth gyda Mudiad Meithrin i gefnogi datblygiad a darpariaeth cymwysterau gofal plant i ystod eang o unigolion ledled Cymru,” meddai Mark Baines o Addysg Oedolion Cymru.
“Bydd y bartneriaeth yn helpu i ddarparu cyfleoedd pellach i gynyddu nifer yr unigolion cymwys ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn arwain at well cyfleoedd cyflogaeth.”
“Mae ansawdd a safon y ddarpariaeth gan Mudiad Meithrin yn arbennig o uchel,” meddai Helen Williams wedyn.
“Cafodd tîm y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol ganmoliaeth uchel am eu gwaith yn darparu’r cymhwyster gan wiriwr allanol y CBAC a City and Guilds yn ddiweddar sydd yn atgyfnerthu’r ffaith mai’r Mudiad yw arbenigwyr y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.”