Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ategu ymrwymiad y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymchwiliad Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig gyfan.
Daw’r sylwadau yn dilyn cais gan golwg360 am ymateb i honiadau Dr Altaf Hussain, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, fod y Llywodraeth wedi torri hawliau dynol yn ystod y pandemig.
Yn ôl Dr Altaf Hussain, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, roedd y Llywodraeth wedi cyflwyno gorchmynion i beidio â dadebru cleifion mewn cartrefi gofal a rheiny sydd ag anawsterau dysgu.
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio galwadau am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, gan ddweud bod yr ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig yn cynnig yr atebion sydd eu hangen.
“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld dyfarniad llys ynghylch y ffordd y cafodd cleifion yn Lloegr eu rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal heb fod wedi cael eu profi am Covid yn gyntaf,” meddai Dr Altaf Hussain mewn datganiad ar ei wefan.
“Mae’r weithred hon wedi’i dyfarnu’n anghyfreithlon ac mae yna oblygiadau enfawr yma i Lywodraeth Cymru oedd wedi gwneud union yr un fath.
“Cafodd nifer o drigolion bregus yn ein cartrefi gofal eu hagor i beryglon Covid yn ddiangen, pan oedd gennym Brif Weinidog yn dweud ar y pryd nad oedd yn gweld gwerth mewn profi torfol.
“Rhaid craffu’n gyhoeddus ar ei weithredoedd yntau a’i lywodraeth mewn ymchwiliad cyhoeddus eang, fel sydd am gael ei gynnal yn Lloegr a’r Alban.
“Nid rhoi bai yw diben hyn, ond sicrhau nad yw camgymeriadau a gafodd eu gwneud bryd hynny’n cael eu hailadrodd pe baen ni byth yn cael ein hunain yng nghanol pandemig yn y dyfodol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo’n gryf i ymchwiliad annibynnol ac mae’n credu mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig a arweinir gan farnwr, a fydd â’r gallu a’r grym i oruchwylio natur gyd gysylltiedig y penderfyniadau a wnaed ar draws y pedair gwlad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae gan y Farwnes Hallett brofiad helaeth o ddelio ag ymchwiliadau proffil uchel, sensitif a chymhleth, gan gynnwys a mewn cyd-destun datganoledig.
“Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i sicrhau ei fod yn ymdrin yn gynhwysfawr â’r camau gweithredu a’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru.
“Ynghyd â’r llywodraethau datganoledig eraill, byddwn yn gweithio i gytuno ar y cylch gorchwyl terfynol i sicrhau y gall yr ymchwiliad hwn ddechrau cyn gynted â phosibl.”