Mae nifer o Balestiniaid wedi cael eu harestio wrth brotestio yn y Lan Orllewinol yn erbyn prisiau cynyddol bwyd a nwyddau hanfodol eraill.

Daw’r protestiadau ar drothwy diwrnod o streicio i fynnu camau gan Awdurdod Palesteina, sy’n brin o’r arian sydd ei angen i geisio datrys y sefyllfa.

Yn ôl cyfreithwyr, mae o leiaf naw o bobol wedi cael eu harestio, ac fe symudodd yr heddlu nifer o bebyll oedd wedi cael eu gosod yn y stryd wrth i brotestwyr alw am streic yn Hebron.

Dydy gwasanaethau diogelwch Palesteina ddim wedi ymateb i gais am sylw am y sefyllfa.

Mae sefyllfa’r prisiau bwyd wedi ychwanegu at y gwrthdaro rhwng Palestiniaid ac Israeliaid yn y Lan Orllewinol dros yr wythnosau diwethaf.

Ac wrth i’r rhyfel yn Wcráin barhau, mae prisiau nwyddau hanfodol fel blawd, siwgr ac olew coginio wedi cynyddu cymaint â 30% ers mis Mawrth – 15-18% yw’r cynnydd ym Mhalesteina, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae Awdurdod Palesteina eisoes wedi eithrio gwenith o’r cynnydd prisiau, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n parhau i fonitro prisiau er mwyn sicrhau nad oes neb yn manteisio ar y sefyllfa i godi crocbris am nwyddau hanfodol.

Mae protestwyr yn galw am eithriadau treth ar nwyddau hanfodol eraill, ond hyn a hyn o le i addasu prisiau sydd gan yr Awdurdod gan mai ychydig iawn o reolaeth sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd.

Dydy degau o filoedd o weision sifil ym Mhalesteina ddim wedi derbyn eu cyflogau ar gyfer mis Mai eto.