Mae’r BBC dan y lach ar ôl iddyn nhw ddefnyddio baner Iwerddon – y faner oren, gwyn a gwyrdd – yn hytrach na baner Ulster yn ystod dathliadau’r Jiwbilî.

Mae’r Gorfforaeth wedi ymddiheuro ar ôl arddangos baner y Weriniaeth yn ystod cyngerdd y Jiwbilî y tu allan i Balas Buckingham, gyda’r digrifwr Doc Brown yn dweud ei fod yn “falch o fod yn Brydeiniwr”.

Dydy Iwerddon ddim wedi bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig ers 1937, ac fe ddaeth yn Weriniaeth yn 1949.

Baner Ulster, y groes goch ar gefndir gwyn, sy’n cynrychioli Gogledd Iwerddon, sy’n cael ei chynrychioli ar faner yr Undeb.

Yn ôl y BBC, bydd y camgymeriad yn cael ei gywiro ar iPlayer.

“Ers pryd ydyn ni’n Brydeinwyr?” gofynnodd un person ar Twitter.

Mae gwleidyddion unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon – rheiny sydd o blaid bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig – wedi mynegi eu rhwystredigaeth yn dilyn y camgymeriad.

Yn ôl Gregory Campbell, Aelod Seneddol y DUP yn Derry, roedd y camgymeriad yn “anffodus”

“Gobeithio y bydd y sawl oedd yn gyfrifol wedi sylweddoli eu camgymeriad ac yn sicrhau mewn unrhyw achlysur yn y dyfodol lle caiff pedair gwlad y Deyrnas Unedig eu cynrychioli’n weledol fod mwy o ofal yn cael ei gymryd i sicrhau nad yw camgymeriad fel yr un hwn yn cael ei ailadrodd,” meddai.

Mae Jim Allister, arweinydd TUV, yn fwy chwyrn ei feirniadaeth, gan ddweud bod y camgymeriad yn “warthus a hollol amharchus” sy’n “groes i broffesiynoldeb yr ystod o ddigwyddiadau’r Jiwbilî”.

Mae’n galw am eglurhad ac ymddiheuriad ynghylch y “sarhad sylfaenol i’r rhan hon o’r Deyrnas Unedig”.

‘Micks’

Mae rhan Gogledd Iwerddon yn yr Undeb wedi bod yn destun trafodaeth dros benwythnos y Jiwbilî, ar ôl i gyn-swyddog gyfeirio at ei gatrawd, y Gwarchodlu Gwyddelig, fel ‘Micks’.

Mae’r term yn un sarhaus am Wyddelod, ac fe geisiodd Huw Edwards eglurhad pellach gan gyfeirio at y sarhad i rai pobol.

Roedd Sinn Fein yn feirniadol o’r sgwrs a’r ffaith fod y sgwrs yn ceisio egluro pam nad yw’r term bellach yn sarhaus – er bod nifer o bobol yn dal i’w ystyried yn annerbyniol.

Yn ôl gwefan y Gwarchodlu, mae’r term ‘Micks’ bellach yn un sy’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd annwyl.