Me Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud ei bod hi’n “bryd symud y prif weinidog anonest hwn o’i swydd”.

Daw ei sylwadau ar drothwy pleidlais bosib o ddiffyg hyder yn erbyn Boris Johnson.

Mae Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, wedi derbyn digon o lythyrau gan aelodau seneddol i allu cynnal y bleidlais heno (nos Lun, Mehefin 6).

Ond mae adroddiadau bod rhai sydd am weld pleidlais yn cael ei chynnal wedi gofyn na fyddai’r bleidlais yn digwydd tan ar ôl dathliadau Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr.

Daw’r bleidlais yn dilyn sawl sgandal yn Downing Street dros y misoedd diwethaf, nid lleiaf y partïon a gafodd eu cynnal yno tra bod gwledydd Prydain dan glo o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.

‘Gwneud y peth iawn’

“Rhaid i bob Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig wneud y peth iawn a chicio allan y prif weinidog anonest hwn o Rif 10,” meddai Jane Dodds.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud yn aml eu bod nhw am sefyll i fyny dros Gymru, dyma’u cyfle nhw.

“Yn syml iawn, does dim esgus dros barhau i gefnogi Johnson.

“Fe wnaeth o dorri’r gyfraith a phartïo tra bod miliynau o bobol wedi gwneud y peth iawn a dilyn y rheolau yn ystod y pandemig, hyd yn oed pan oedd yn golygu methu gweld eu hanwyliaid.

“Mae ei ymddygiad a’i gelwyddau’n brawf nad yw e’n ffit i lywodraethu.

“Pe bai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud y peth nad oes modd ei amgyffred ac yn parhau i gefnogi Johnson, byddan nhw wedi sarhau’r etholwyr Cymreig sy’n amlwg wedi cael hen ddigon ar y sgandalau parhaus ac wedi siomi eu hetholwyr yn fawr iawn.”

‘Yr holl benderfyniadau mawr yn anghywir’

Wrth i’r Ceidwadwyr drydar eu cefnogaeth i Boris Johnson, gan ddweud iddo wneud y penderfyniadau cywir ar y materion mwyaf, mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn un sy’n anghytuno â hynny:

Dyma sydd gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, i’w ddweud:

Cefnogaeth

Ond mae rhai o fewn rhengoedd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi datgan eu cefnogaeth i Boris Johnson eisoes: