Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, fe fu pobol ifanc yn manteisio ar ŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop i alw am sicrwydd bod modd iddyn nhw fyw yn eu cymunedau eu hunain.
Fe fu degau o bobol ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth effeithiol er mwyn gwireddu eu dymuniadau.
Cafodd galwad swyddogol gan Gymdeithas yr Iaith ei llofnodi gan bobol ifanc rhwng 14 a 28 oed sydd yn chwilio, neu a fydd yn chwilio am rywle i’w rentu neu ei brynu yn eu hardaloedd eu hunain dros y blynyddoedd i ddod.
Dydy’r broblem tai ddim yn rhywbeth newydd, meddai’r Gymdeithas, gan ychwanegu bod “cenhedlaeth o’n blaen ni yn brwydro am Ddeddf Eiddo i sicrhau hawl i bobol leol i gartref”.
Maen nhw’n dweud ei bod hi’n “hen bryd i’r Llywodraeth ymyrryd yn y farchnad tai” gan fod y “sefyllfa’n gwaethygu” ac na fydd gobaith i bobol gael prynu tŷ yn eu cymunedau eu hunain “os na fydd pethau’n newid”.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:
- sicrhau yr hawl i gartre’n lleol
- cynllunio ar gyfer anghenion lleol
- grymuso cymunedau
- blaenoriaethu pobol leol
- rheoli sector rhentu
- darparu cartrefi cynaliadwy
- buddsoddi mewn cymunedau
Yr alwad yn llawn
“Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau,” meddai’r alwad gan Gymdeithas yr Iaith.
“Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobol leol.
“Fel Cymdeithas, credwn fod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg.
“Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobol leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchad dai adlewyrchu cyflogau lleol.
“Galwn am Ddeddf Eiddo a fydd yn mynd i’r afael â’r problemau yma.”