Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn galw am eglurhad gan Lywodraeth Cymru am honiadau eu bod nhw a’r Gwasanaeth Iechyd wedi torri hawliau dynol cleifion yn ystod y pandemig.

Yn ôl Dr Altaf Hussain, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, roedden nhw wedi cyflwyno gorchmynion i beidio â dadebru cleifion mewn cartrefi gofal a rheiny sydd ag anawsterau dysgu.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio galwadau am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, gan ddweud bod yr ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig yn cynnig yr atebion sydd eu hangen.

“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld dyfarniad llys ynghylch y ffordd y cafodd cleifion yn Lloegr eu rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal heb fod wedi cael eu profi am Covid yn gyntaf,” meddai Dr Altaf Hussain mewn datganiad ar ei wefan.

“Mae’r weithred hon wedi’i dyfarnu’n anghyfreithlon ac mae yna oblygiadau enfawr yma i Lywodraeth Cymru oedd wedi gwneud union yr un fath.

“Cafodd nifer o drigolion bregus yn ein cartrefi gofal eu hagor i beryglon Covid yn ddiangen, pan oedd gennym Brif Weinidog yn dweud ar y pryd nad oedd yn gweld gwerth mewn profi torfol.

“Rhaid craffu’n gyhoeddus ar ei weithredoedd yntau a’i lywodraeth mewn ymchwiliad cyhoeddus eang, fel sydd am gael ei gynnal yn Lloegr a’r Alban.

“Nid rhoi bai yw diben hyn, ond sicrhau nad yw camgymeriadau a gafodd eu gwneud bryd hynny’n cael eu hailadrodd pe baen ni byth yn cael ein hunain yng nghanol pandemig yn y dyfodol.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.