Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi ennill pleidlais o hyder.

Pleidleisiodd pob un o’r 359 o Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi gan Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922.

Roedd 211 wedi datgan fod ganddyn nhw hyder ynddo, tra bod 148 wedi datgan diffyg hyder.

Pe bai wedi colli, byddai her arweinyddol wedi cael ei thanio.

Mae lle i gredu bod pob Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru wedi ei gefnogi.

‘Buddugoliaeth blinderus a thenau’

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae “awdurdod [Boris Johnson] eisoes wedi’i rwygo gan y fuddugoliaeth blinderus a thenau hon”.

“Mae’n dweud cyfrolau nad oes yr un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi galw ar i Boris Johnson ymddiswyddo,” meddai.

“Rhaid iddyn nhw fyfyrio heno ai parch at eu hetholwyr neu ofn chwipiaid y Blaid Geidwadol sy’n penderfynu pa ffordd maent yn pleidleisio?

“Bydd rhyfel cartref Torïaidd nawr yn parhau i lygru ein gwleidyddiaeth.

“Gall Cymru wneud cymaint yn well na’r sioe arswyd hon yn San Steffan.”

“Mae’n bryd symud y prif weinidog anonest hwn o’i swydd”

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn ymateb ar drothwy pleidlais bosib o ddiffyg hyder yn erbyn Boris Johnson

“Mae’n dweud cyfrolau nad oes yr un AS Ceidwadol o Gymru wedi galw ar i Boris Johnson ymddiswyddo”

“Rhaid gofyn ai parch at eu hetholwyr neu ofn chwipiaid y Blaid Geidwadol sy’n penderfynu pa ffordd maent yn pleidleisio?”