Mae cantores neo-soul wedi ysgrifennu cân brotest chwyrn ar ôl darllen cerdd Gymraeg yn canmol yr heddlu, a gweld presenoldeb yr heddlu ar faes yr Urdd.

Cyflwynodd Izzy Morgana Rabey y gân newydd yn ystod ei pherfformiad hi a’r gantores Eädyth yn ystod Gŵyl Triban nos Sadwrn (Mehefin 4), ar ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.

Roedd hi wedi’i thanio i gyfansoddi’r gân y noson gynt, meddai, ar ôl deall bod y bardd Eurig Salisbury wedi ysgrifennu cerdd gomisiwn yn canu clodydd yr heddlu, ac o weld yr heddlu o gwmpas Maes yr Eisteddfod.

Llinellau cyntaf y gân yw: ‘Salisbury yn sgrifennu cerdd yn dathlu’r heddlu/ Fel rhywun sy’n cefnogi Cymdeithas, it’s absolutely beyond me…

Mae’r gân hefyd yn cyfeirio at hanes ymgyrchwyr Cymreig sydd wedi gwrthdaro â’r heddlu – fel Cymdeithas yr Iaith, Greenham Common, a’r ‘Cardiff Three’. Hefyd, achosion dadleuol fel marwolaeth Mohamud Hassan o Butetown pan oedd yn nalfa’r Heddlu, a Mouayed Bashir, llanc 29 oed o Gasnewydd, a fu farw yn 2021 ar ôl i Heddlu Gwent fynd i’w gartref.

Mi wnaeth geiriau’r gân argraff ar dorf llwyfan yr Arddorfa nos Sadwrn, a chafodd hi fonllef fawr o gymeradwyaeth ar y diwedd.

“Roedd fy ffrind i yn yr Eisteddfod ac mi wnaeth hi ddanfon lluniau o’r heddlu a’r plant a’r riot gear, ac ro’n i yn teimlo fy mod i’n gorfod dweud rhywbeth amdano fe,” meddai’r gantores, sydd hefyd yn gyfarwyddwr theatr, wrth golwg360.

“Mae yn hollol warthus. Mae gweld presenoldeb yr heddlu mewn gŵyl ar gyfer plant yn hollol ridiculous. Os ydyn nhw eisie ehangu cynrychiolaeth pwy sydd yn yr Eisteddfod, ac yn mynd i gael yr heddlu yna, dyw e ddim yn mynd i weithio.

“Rhoi batons i blant bach! Ro’n i mor grac am y peth. Yn enwedig gan bod pobol wedi brwydro ar gyfer yr iaith Gymraeg drwy clasho efo’r heddlu. Ac fel person o dras cymysg, ro’n i’n meddwl bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth amdano fe.”

Lluniodd Eurig Salisbury gywydd i Heddlu Dyfed-Powys i ddathlu hanner canmlwyddiant y sefydliad ym mis Ebrill 2018 – ei dasg gyntaf yn fardd preswyl y corff.

Y pennill cyntaf yw: ‘Rhowch bob notepad i gadw,/ Mae’n jiwbilî’r bois in blue!/ Nawr â’r cops yn hanner cant,/ Lle hawdd yw dathlu’u llwyddiant,/ Canmol hanner can mlynedd/ O droi’r rhod, o gadw’r hedd.

Protest yn Nhregaron

“Mi wnes i ddarllen y darn wnaeth Eurig Salisbury i’r heddlu ac mae e jyst mor gross,” meddai Izzy Morgana Rabey.

“Dyna pam ro’n i’n teimlo fy mod i’n gorfod sgrifennu cerdd yn ymateb. Dw i yn anghytuno ag e yn hollol.”

Mae hi’n dweud ei bod hi am berfformio’r gerdd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst, “i brotestio yn fyn’na hefyd.”

Cân Izzy Morgana Rabey

‘Salisbury yn sgrifennu cerdd yn dathlu’r heddlu

Fel rhywun sy’n cefnogi Cymdeithas, is absolutely beyond me.

Let’s not mention y dynion a fu farw eu ddwylo waedlyd –

Mohamud o Butetown ac o Gasnewydd, Mouayed.

Gorfod mynd i Met Llundain i drio cael traction

Achos oedd ymateb heddlu ni i’r account @lladdpoblduon ddim yn symud fraction

Dyw’r heddlu erioed wedi bod ar ochr y bobol

Sy’n gwthio am y newidiadau hollol BASIC

Y glowyr, Greenham Common, Cymdeithas yr Iaith

Saunders Lewis, y Cardiff Three – mae’n absolute ffaith

Doedden nhw erioed ar ochr ein hanes.

I dderbyn comisiwn llawn clod is an absolute madness

Plant bach yn mwytho riot shields fel anifeiliaid anwes

Yn Eisteddfod yr Urdd.

Fascism forms in jovial apathy mewn sawl ffyrdd.’

 

Mae’r fideo o’r perfformiwr yn llefaru’r geiriau ar ei chyfrif Twitter.

Cafodd ei ffilmio ar faes Eisteddfod yr Urdd, ac mae’r perfformiwr yn eistedd wrth y car heddlu a oedd ar y Maes.

Yn y neges, mae’r cerddor yn dweud: ‘Heddiw yn ystod set ni nath @eadythofficial a finne ddewis rhannu’r darn yma i brotestio presenoldeb yr heddlu yn y steddfod a hefyd gomisiwn E**** S******** i gyfansoddi cerdd yn dathlu’r heddlu. Diolch i’r gynulleidfa wych odd mor gefnogol. Achos protest, mae’r Cymraeg YMA O HYD’.

Ymateb Eurig Salisbury

“Rhaid i gymdeithas a’r heddlu fod yn fythol wyliadwrus rhag llygredd a chreulondeb sefydliadol,” meddai Eurig Salisbury wrth golwg360.

“Rhan allweddol o waith yr heddlu yn y cyswllt hwnnw yw ymgysylltu â’r cyhoedd ac ennyn parch ac ymddiriedaeth y bobol maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Roedd y gerdd gomisiwn a luniais yn 2018 ar gais Heddlu Dyfed-Powys i ddathlu ei hanner canmlwyddiant yn cyfrannu mewn ffordd fach at y gwaith pwysig mae’r llu’n ei wneud, ac yn codi ymwybyddiaeth hefyd o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i waith yr heddlu.

“Gallwch ddarllen y gerdd yn y gyfrol Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr Urdd.