Mae ffigurau gwrando Radio Cymru “ar eu huchaf” ers dros 12 mlynedd.
Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, mewn sgwrs gyda chylchgrawn golwg ar faes yr Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwethaf, mae’r ffaith honno yn “anhygoel”.
Roedd Rhuanedd Richards yn sgwrsio am bartneriaeth newydd BBC Cymru a’r Urdd, a fydd yn agor drysau’r Ganolfan Ddarlledu newydd ar Sgwâr Canolog Caerdydd i wersyllwyr ifanc canolfan yr Urdd yn y Bae Caerdydd yn rhan o’u gweithgareddau.
Un o’r gobeithion yw “creu’r gweithlu’r dyfodol”, yn ôl Rhuanedd Richards.
“Roedd yr Urdd yn rhan mor bwysig i fy mhlentyndod i, o deimlo bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith gymunedol,” meddai wrth golwg.
“Wedyn mae’r BBC yn gorfod chwarae rôl debyg.
“Mae bodolaeth Radio Cymru ar hyd y degawdau diwethaf wedi dangos bod y Gymraeg yn gyfoes, yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd… Yr her i ni yw sicrhau ein bod ni ar y platfformau iawn, ar y cyfryngau iawn, a’n bod ni’n medru creu cynnwys sy’n medru apelio at bobol yn eang.
“Mae ffigurau gwrando Radio Cymru ar eu huchaf ers dros 12 mlynedd. Mae hynny’n anhygoel.
“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein gweld nid jyst yn gwahodd pobol i mewn ond yn ymestyn allan dros Gymru gyfan.”
Ffigwr cyrhaeddiad wythnosol Radio Cymru yn rhan gyntaf 2022 oedd 155,000, “sy’n uwch nag maen nhw wedi bod am sbel” yn ôl llefarydd.
Ffigwr y chwarter diwethaf, yn niwedd 2021, oedd 164,000.
Darllenwch y cyfweliad yn llawn yn rhifyn nesaf golwg ddydd Iau yma (Mehefin 9).