Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi bod yn creu gweirgloddiau er mwyn caniatáu i blanhigion, peillwyr a bywyd gwyllt ffynnu.
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Gweirgloddiau (Gorffennaf 2), mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn dathlu adfywio 146 hectar, neu ardal sydd tua 40 gwaith gymaint â Stadiwm y Principality, o weirgloddiau dros Gymru.
Ers y 1930au, mae tua 97% o weirgloddiau Cymru wedi diflannu, ac yn 2019 dechreuodd yr elusen ar brosiect tair blynedd gyda Plantlife Cymru i’w hailgyflwyno.
Y nod ydy creu 213 hectar o weirgloddiau ar 25 safle sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth erbyn diwedd mis Rhagfyr 2022, gan fynd tu hwnt i’r targed gwreiddiol o 176 hectar.
Yng Nghastell Penrhyn ger Bangor, mae dwy weirglodd newydd bellach yn eu blodau, a’r blodau yn denu gwenoliaid sy’n bwyta’r pryfed sy’n cael eu cynnal ganddyn nhw.
Mae tua 3 hectar o weirgloddiau wedi cael eu hadfywio i amgylchynu Tŵr Paxton yn Sir Gâr, gan ddefnyddio hadau o wreirgloddiau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
‘Gwella gwytnwch cynefinoedd’
Dywedodd Lauri MacLean, Swyddog Cadwraeth Natur Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, bod y prosiect hwn yn mynd i’r afael â “chreu gweirgloddiau newydd mewn lleoedd lle nad oedd cynefin yn bodoli, yn ogystal â gwella cyflwr glaswelltiroedd presennol, gan wella eu potensial er mwyn cefnogi ystod ehangach o fioamrywiaeth”
“Gall gweirgloddiau sy’n llawn blodau ddenu gloÿnnod byw fel Llwyd y Ddôl a’r Glesyn Cyffredin, cacwn prin ac yn cefnogi adar tir fferm sy’n mynd yn fwyfwy prin, fel yr ehedydd a chorhedydd y waun.
“Drwy wella bioamrywiaeth ar bob safle, byddwn yn gwella gwytnwch y cynefin ar gyfer rhywogaethau sy’n cymryd blaenoriaeth, gan drawsnewid glaswelltiroedd a oedd unwaith yn ddiflas, yn fannau llewyrchus i blanhigion, pryfed peillio a bywyd gwyllt.”
‘Gwrthdroi’r bygythiad’
Mae ymchwil Plantlife yn dangos bod un metr sgwâr o weirglodd blodau gwyllt yn ystod yr haf yn gallu bod yn gartref i 570 o flodau yn ystod un diwrnod.
“Mae’n hanfodol ein bod yn atal y lleihad brawychus yn nifer y gweirgloddiau blodau gwyllt, ac yn symud tuag at greu mwy o weirgloddiau godiodd, er budd planhigion, pobl, peillwyr a’r blaned,” meddai Ian Dunn, Prif Swyddog Gweithredol Plantlife.
“Mae’r prosiect cadwraeth hwn sy’n prysur ddatblygu – yn debygol o ragori ar dargedau – yn flaenllaw o ran chwyldro’r gweirgloddiau; o ysgolion i gartrefi gofal, ysbytai, ymylon ffyrdd a hyd yn oed safleoedd tirlenwi, rydym wedi creu 200 hectar o weirgloddiau newydd, gan gynnwys 50 gweirglodd drefol newydd.
“Ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Gweirgloddiau eleni, byddaf yn mwynhau heddwch a thawelwch gweirgloddiau, gan wybod bod gan bobol wir angerdd a greddf benderfynol i wrthdroi’r bygythiad a diogelu’r lleoedd arbennig hyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.”