Wrth i boblogaeth Ynys Môn heneiddio, mae blaengynllunio gwasanaethau’r dyfodol yn bwysicach nag erioed, meddai arweinydd y Cyngor.

Yn ôl ystadegau cychwynnol Cyfrifiad 2021, mae Ynys Môn wedi gweld cynnydd o 16.3% yn nifer y bobol 65 oed a hŷn.

O gymharu, mae gostyngiad o 7.9% yn nifer y bobol 15 i 64 oed, a dim ond cynnydd o 0.1% yn nifer y plant dan 15 oed.

Mae’r ystadegau hynny’n cadarnhau bod poblogaeth Môn, fel gweddill Cymru, yn heneiddio.

“Mae ffigyrau newydd y Cyfrifiad wedi cadarnhau’r hyn yr ydym wedi ei amau ers tro – bod yna bellach fwy o bobol hŷn a llai o bobol ifanc ar Ynys Môn,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi.

“Mae blaen gynllunio o ran darparu gwasanaethau’r dyfodol yn bwysicach nag erioed; fel yw’r angen i ddarparu mwy o gyfleoedd am swyddi er mwyn sicrhau y gall ein pobl ifanc, ein cymunedau a’r Gymraeg ffynnu.”

‘Effaith ar gyllid’

Gallai’r newid yn nemograffeg yr ynys gael effaith ar y cyllid mae’r Cyngor yn ei dderbyn yn gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau, meddai Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dylan Williams.

“Mae’r ffigyrau Cyfrifiad newydd hyn yn cadarnhau bod proffil oedran yr Ynys wedi newid,” meddai.

“Mae gan Ynys Môn boblogaeth sy’n heneiddio a bydd hyn yn siŵr o effeithio ar ein gwasanaethau mewn blynyddoedd i ddod, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae’n rhaid cymryd yr holl ffactorau hyn i ystyriaeth wrth i ni weithio i ddatblygu ein Cynllun Cyngor 2022-27 newydd; sy’n gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

“Bydd Cynllun y Cyngor yn chwarae rôl hanfodol wrth benderfynu ein nodau ac amcanion ac yn edrych ar flaenoriaethau o ran darparu gwasanaethau’r dyfodol.”

Data cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn “dangos symudiad cyffredinol tua’r de”

Cadi Dafydd

Golwg ar rai o ganfyddiadau’r cyfrifad diweddaraf gyda Huw Prys Jones