Mae’n debyg bod data cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn “dangos symudiad cyffredinol tua’r de”, meddai’r newyddiadurwr a’r awdur Huw Prys Jones.
Fodd bynnag, un o’r pethau amlycaf o’r data yw’r gostyngiad ym mhoblogaeth Ceredigion, meddai Huw Prys Jones, sydd wedi gwneud ymchwil helaeth i ffigurau’r Cyfrifiad ar y Gymraeg i amrywiol gleientiaid dros y blynyddoedd ac wedi cyhoeddi erthyglau ar y pwnc.
Ond er gwaethaf y gostyngiad eithaf sylweddol yng Ngheredigion (gostyngiad o 5.8% ers 2011), a gostyngiad yng Ngwynedd (3.7%), mae Huw Prys Jones yn “reit sicr” mai’r rheswm dros hynny yw absenoldeb myfyrwyr yn sgil y cyfnod clo.
“Mae Ceredigion yn sir eithaf fach, wledig, mae’r brifysgol yn Aberystwyth yn chwarae rhan mor arwyddocaol yn yr economi, ac mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r myfyrwyr adref yn ystod y cyfnod clo a bod hynny wedi cael effaith lawer mwy ar boblogaeth Ceredigion nag y mae o ar boblogaeth dinasoedd eraill mwy,” meddai wrth golwg360.
“Yng nghyfrifiad 2011, roedd 17% o boblogaeth Ceredigion yn fyfyrwyr llawn amser, mae hynny’n cynnwys rhywun sydd dros 16 oed sydd mewn addysg llawn amser… ond mae’n cymharu efo 8% ar gyfartaledd yng Nghymru.
“Mae’r un peth yn wir am Wynedd, ond mae Gwynedd yn sir rywfaint yn fyw na Cheredigion. Ryw 11% o’r boblogaeth y sir oedd yn fyfyrwyr yn 2011.
“Roedd hi’n ddiddorol gweld mai Casnewydd sydd efo’r twf mwyaf (9.5%), mae hwnnw bron ddwywaith be oedd twf Caerdydd (4.7%). Ond unwaith eto, ella bod myfyrwyr y brifysgol yn effeithio ar hynny – ella bysa cynnydd Caerdydd rywbeth tebyg i hynny.”
Ar Fawrth 21 2021, roedd 3,107,500 o bobol yn byw yng Nghymru, twf o 1.4% ers Cyfrifiad 2011.
Roedd twf poblogaeth Lloegr yn 6.6%.
“Yr unig beth na fedra i feddwl am unrhyw ateb syml iddo fo ydy pam bod twf poblogaeth Cymru’n is na hyd yn oed yn rhanbarthau tlotaf Lloegr,” meddai Huw Prys Jones.
“Cyfoeth cymharol ydy’r unig beth alla’i fod yn brif ffactor. Gogledd orllewin, gogledd ddwyrain Lloegr sydd agosaf ato fo.”
Symud tua’r de
Mae yna arwyddion yn y Cyfrifiad bod pobol yn symud tua de Cymru a de Lloegr, meddai Huw Prys Jones.
“Tueddiad cyffredinol dw i’n weld, o edrych ar fap Cymru a Lloegr efo’i gilydd, mae yn ryw symudiad cyffredinol tuag at dde Lloegr yn arbennig, ond mae yna lefydd fel Bro Morgannwg, Pen-y-bont, Caerdydd, Casnewydd fel eu bod nhw’n ffitio i’r un patrwm ag y mae de Lloegr.
“Mae’n debyg ei fod yn dangos symudiad cyffredinol tua’r de, mae o’n digwydd o fewn Cymru. Mae o’n arwydd bod yna lot o bobol o Gymru’n symud allan am Loegr hefyd wrth gwrs, ac ella bod yna bobol o lefydd yn Lloegr yn symud mewn am lefydd fel Caerdydd a Chasnewydd.”
Gwelodd Blaenau Gwent ostyngiad eithaf sylweddol (gostyngiad o 4.2% ers 2011), a Chaerffili (1.6%).
“O ran Caerffili, dw i’n meddwl bod hwnnw’n dilyn patrwm sydd wedi digwydd ers degawdau. Rydych chi’n edrych ar bentrefi blaenau uchaf y cymoedd lle mae yna ryw symudiad – y boblogaeth yn heneiddio ac yn symud lawr i Gasnewydd a Chaerdydd, ac mae’n siŵr bod yna rai yn symud lawr am lefydd fel Bryste a Llundain.
“[O ran Blaenau Gwent], mae’n debyg nad yw hynny i’w synnu, Blaenau Gwent yw un o ardaloedd tlotaf Cymru. Mae hwnna’n eithaf sylweddol o feddwl bod yna lefydd fel Merthyr wrth ymyl, efo nesaf peth i ddim.”
Ond ar y cyfan, dydy Huw Prys Jones ddim yn gweld bod newidiadau anferthol wedi bod yn siroedd Cymru.
Poblogaeth yn heneiddio
Roedd mwy o bobol nag erioed dros 65 oed yng Nghymru hefyd, gyda 21.3% o holl boblogaeth Cymru’n 65 oed neu hŷn llynedd o gymharu ag 18.4% yn 2011.
Mae graddfa’r cynnydd ymhlith pobol dros 65 oed rywfaint uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ond roedd hynny i’w ddisgwyl, meddai Huw Prys Jones.
“Roedd yna gyfran uwch o bobol hŷn yma ddeng mlynedd yn ôl,” meddai.
“Mae’n debyg bod yna bob math o ffactorau pan ti’n edrych ar y peth dros Gymru a Lloegr – pobol yn byw yn hŷn, y gyfradd enedigaeth ychydig bach yn llai.”
Nifer y cartrefi
Dim ond deuddeg awdurdod lleol dros Gymru a Lloegr welodd ostyngiad yn nifer y cartrefi rhwng 2011 a 2021, ac oni bai am dri awdurdod yn Llundain, Gwynedd (gostyngiad o 2.6% ers 2011) a Cheredigion (gostyngiad o 2.1%) oedd â’r newid mwyaf.
Mae’r cyfrifiad yn cynnwys cartref sydd gan o leiaf un preswylydd arferol.
“Mae’n rhaid gen i fod nifer y cartrefi yn gysylltiedig iawn efo’r boblogaeth. Dw i’n cymryd bod o yn adlewyrchiad bod yna nifer fawr o dai gwag ym Mangor ac Aberystwyth yn fwy na unrhyw beth arwyddocaol am dai haf,” meddai Huw Prys Jones.
“Wrth gwrs, mae hyn cyn y gwallgofrwydd iawn mewn prisiau tai welsom ni dros y misoedd diwethaf. Roedd hwn ym mis Mawrth 2021, prin dechrau oedd y symudiad.”
Wrth edrych ymlaen tuag at ryddhau’r ystadegau’n ymwneud â’r Gymraeg hwyrach eleni, dywedodd Huw Prys Jones y bydd rhaid bod yn ofalus wrth eu trin gan fod poblogaeth y myfyrwyr wedi’u cynnwys yn ystadegau 2011.
“Mi oedd ffigurau’r Gymraeg ar gyfer Gwynedd a Cheredigion dipyn is na be ddylen nhw fod y tro blaen oherwydd ei fod wedi digwydd yn ystod tymor y myfyrwyr.
“Pan ddaw ffigurau am y Gymraeg, bydd rhaid i ni fod yn eu cymharu nhw, nid efo prif ffigurau 2011 ond ar ôl ystyried be fysa’r rheiny wedi bod heb gymaint o fyfyrwyr.”