Mae undeb addysg yn dweud “nad oes ymchwil a thystiolaeth amlwg” i gefnogi’r galw am gael llai o wyliau ysgol yn yr Haf.
Daeth y syniad o gwtogi gwyliau haf ysgolion o’r chwe wythnos bresennol lawr i bedair ar yr agenda fel rhan o adolygiad i galendr y flwyddyn academaidd.
Mae Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles, wedi dweud na fydd y gwyliau haf yn cael eu cwtogi i ddwy neu dair wythnos, ac na fydd cyfanswm y gwyliau blynyddol yn cael ei gwtogi.
Er bod undeb UCAC yn croesawu’r trafodaethau, mae hi’n anodd gweld bod yr achos dros newid wedi ei gyflwyno’n ddigonol, meddai.
Mae cwmni ymchwil Beaufort eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil ar farn y cyhoedd am y pwnc gan gynnig tri opsiwn, fyddai’n golygu torri’r gwyliau i dair, pedair neu bum wythnos ac addasu patrwm y tymhorau.
Awgryma’r ymchwil cychwynnol bod y cyhoedd yn fodlon gyda’r drefn bresennol o chwe wythnos o wyliau yn yr haf gyda phythefnos o wyliau dros gyfnod y Nadolig a’r Pasg a thri chyfnod o wythnos adeg hanner tymor.
Ond, yn ôl Jeremy Miles, mae mwyafrif y gweithlu addysg a thua hanner y disgyblion yn cefnogi trefn wahanol.
‘Angen tystiolaeth’
Does gan aelodau UCAC ddim un farn bendant o ran newid, ac mae’r farn yn amrywio o aelod i aelod, meddai Dilwyn Roberts-Young, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, ond maen nhw’n awyddus i weld bod gwyliau cenedlaethol yn derbyn eu priod le o fewn y calendr ysgolion.
“Nid oes rhesymeg glir wedi ei gyflwyno ar gyfer unrhyw newid ac mae’r ffaith nad oes ymchwil a thystiolaeth amlwg sydd yn gyrru’r angen i ystyried newid patrymau blwyddyn yn bryder,” meddai Dilwyn Roberts-Young wrth golwg360.
“Mae’n amlwg hefyd o ganfyddiadau Beaufort bod y gweithlu yn fodlon gyda’r calendr ysgol bresennol.
“Nid oes tystiolaeth bod awydd i weld newid, ond yr hyn welwn yw bod y gweithlu yn fodlon trafod opsiynau pan fo iaith arweiniol yn cael ei ddefnyddio.”
Mae rhai wedi dadlau y byddai gwyliau hirach ar adegau eraill o’r flwyddyn academaidd yn cynnig hwb i staff a disgyblion, a bod un gwyliau hir yn effeithio ar addysg a lles plant.
“Mae UCAC yn derbyn bod angen rhoi sylw i’r ffaith fod peth tystiolaeth bod addysg disgyblion yn cael ei heffeithio gyda gwyliau o 6 wythnos – ond bod angen sicrhau bod y dystiolaeth yn glir yn hyn o beth, ac y byddai unrhyw newid i’r calendr yn fuddiol,” meddai Dilwyn Roberts-Young.
“Efallai y dylid rhoi sylw i’r rheswm tu ôl i’r difreintedd yn y lle cyntaf ac efallai bod angen ystyried cynnig addysg amgen yn ystod gwyliau’r Haf.”
Sgileffeithiau i staff
Ar y llaw arall, mae hi’n “bryder mawr” nad oes unrhyw ystyriaeth wedi cael ei roi i asesu sgileffeithiau’r newidiadau ar lwyth gwaith staff ac ar faterion cydraddoldeb, ychwanega.
“Mae’n anodd credu bod ystyried wedi ei roi i ehangu gwyliau’r Nadolig a hynny’n gwbl groes i’r meddylfryd tybiedig fod gwyliau hirach yn andwyol i ddisgyblion.
“Wrth gyflwyno’r syniad yma, mae’n anodd meddwl bod unrhyw ystyriaeth wedi i roi i’r ffaith y byddai gwyliau hirach yn golygu costau sylweddol ar deuluoedd yng nghanol y Gaeaf ac y byddai effaith andwyol posibl ar iechyd meddwl plant.
“Eto, byddai’n braf gweld tystiolaeth i gefnogi’r dybiaeth y byddai llai o wyliau haf yn fuddiol yn gyffredinol – yn wir, mae’r gwledydd hynny sydd yn cael eu tybio i fod ar flaen y gad o ran cyrhaeddiad yn aml â gwyliau hirach na Chymru.
“Fodd bynnag, mae’n deg dweud y byddai rhannu gwyliau trwy gydol y flwyddyn yn gallu cael effaith gadarnhaol ar lefel ymroddiad tuag at ddiwedd hanner tymor.”
Bydd ymgynghoriad swyddogol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf i ystyried unrhyw newidiadau posib.