Mae’r Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd wedi beirniadu Cyngor Gwynedd am fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu Ffordd Osgoi ddadleuol ym mhentref Llanbedr sydd rhyw dair milltir o Harlech.
Daw sylwadau Lee Waters o’r Blaid Lafur ar ôl i Gyngor Gwynedd gyhoeddi y bydd yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi arian at gostau adeiladu’r lôn newydd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dynnu gwerth £14m o gefnogaeth ariannol yn ôl o’r cynllun i adeiladu’r Ffordd Osgoi, er bod y cyngor wedi sicrhau caniatâd cynllunio gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Daeth y tro pedol yn sgil adolygiad o holl gynlluniau ffyrdd newydd yng Nghymru, gyda phanel arbenigol yn dweud wrth Lywodraeth Cymru nad oedd ffordd osgoi Llanbedr yn cyd-fynd â’u polisi ar daclo newid hinsawdd.
Fodd bynnag, mae yna alw wedi bod ers rhai blynyddoedd am ddatrys problemau traffig sy’n cael eu hachosi gan bont gul yng nghanol pentref Llanbedr, ac mae Cyngor Gwynedd yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r gwaith.
Nawr, wedi rhai misoedd o drafod, maen nhw yn gofyn am hyd at £40m o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y gwaith.
Yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau traffig y pentref, mae’r Cyngor yn dweud y byddai’r cyllid yn ei gwneud yn haws i bobol gerdded a beicio yn ddiogel ym mhentref Llanbedr ei hun.
Ar ben hynny maen nhw yn dweud y byddai eu cynllun yn gwella mynediad pobol leol ac ymwelwyr i drafnidiaeth gyhoeddus drwy ddatblygu safleoedd bws a chysylltiadau rheilffordd addas, yn ogystal â gosod gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd y ffordd.
“Taith hir o’n blaenau”
“Mae gwaith caled a thrafodaethau wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni ers rhai misoedd bellach i drafod y ffordd ymlaen gyda’r trafferthion parhaus sy’n wynebu pobl leol, busnesau, gweithwyr ac ymwelwyr ar rwydwaith ffordd ardal Llanbedr ym Meirionnydd, ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i roi stop ar ddatblygu ffordd newydd yn yr ardal,” meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.
“Yn dilyn trafodaethau, dan arweiniad Plaid Cymru Gwynedd, mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi bod yn paratoi cais am arian Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datblygu pecyn o welliannau, dan yr enw: Coridor Gwyrdd Ardudwy.
“Bydd elfennau teithio gwyrdd a theithio llesol yn greiddiol i’r cais yma.
“Bwriad cynllun Coridor Gwyrdd Ardudwy yw cyflwyno cais, am oddeutu £40 miliwn, i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer pecyn o fesurau, sy’n cynnwys adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr.
“Bydd yr elfen yma o’r prosiect hefyd yn cynnwys mynediad newydd i safle’r maes awyr presennol.
“Dechrau’r broses yw hon, ac mae taith hir o’n blaenau, ond gyda’r ewyllys gwleidyddol, rydym yn benderfynol o wneud ein gorau dros drigolion lleol.”
“Argyfwng newid hinsawdd”
Wrth ymateb i’r cais gan Gyngor Gwynedd am arian, mynnodd Lee Waters y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd nad yw adeiladu mwy o ffyrdd yn gynaliadwy oherwydd ein bod “ni i gyd yn wynebu’r un argyfwng newid hinsawdd”.
“Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael ag ef, ni allwn barhau i adeiladu mwy a mwy o gapasiti ffyrdd ar gyfer cerbydau preifat,” meddai.
“Dyna pam rydym wedi comisiynu adolygiad ffyrdd sy’n edrych ar bob cynllun ffordd newydd.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Chyngor Sir Gwynedd i gyflawni gwelliannau yn Llanbedr, sy’n cyd-fynd â’n targedau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, fel y nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a’n cynllun cyflawni carbon isel sero Net Cymru, ac sy’n gwneud y gorau o gyfleoedd economaidd lleol.”