Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gresynu tuag at sefyllfa Dirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr yn San Steffan, sydd wedi cael ei gyhuddo o gyffwrdd dau ddyn heb ganiatâd.

Mae Chris Pincher, Aelod Seneddol Tamworth, wedi ymddiswyddo o’r llywodraeth heddiw (Gorffennaf 1), yn sgil honiadau ei fod wedi mynd i’r afael â’r dynion mewn clwb preifat yn Llundai

Yn ei lythyr ymddiswyddo, dywedodd Chris Pincher wrth y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod wedi “yfed gormod o lawer” a’i fod wedi “codi cywilydd” ar ei hun ac ar eraill.

‘Nid y tro cyntaf’

Wrth ymateb i’r helynt, dywedodd  Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth Sky News, ei fod yn “drist iawn” ynghylch y sefyllfa, ond mai lle prif chwip y Ceidwadwyr oedd penderfynu ar ddyfodol Chris Pincher.

“Mae hyn yn fy ngwneud i’n drist iawn, dw i’n drist dros bawb sydd ynghlwm â’r pethau hyn,” meddai Simon Hart.

“Mae’n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o’i le’n ddifrifol. Mae yna broses, dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod y broses yn cael ei dilyn.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollol gywir, bod y prif chwip ac eraill yn penderfynu pa ymateb sy’n addas heddiw.

“Wrth gwrs, os oes yna rai sy’n ddioddefwyr yn hyn ac sydd eisiau gwneud cwyn, fedra nhw wneud hynny.

“Does dim rhaid cael cwyn i’r prif chwip edrych ar y sefyllfa a phenderfynu beth i’w wneud nesaf, gall hynny ddigwydd beth bynnag.”

Gofynnwyd iddo a yw’n gobeithio y bydd y mater yn cael ei anwybyddu, a dywedodd “yn sicr ddim”.

“Nid dyma’r tro cyntaf, a dw i’n ofni mai nad dyma’r tro olaf, o bosib. Mae pethau fel hyn yn digwydd yn y gweithle o dro i dro.”

Galw am ei wahardd

Yn ôl Sky News, fe wnaeth Chris Pincher gyffwrdd dau ddyn o flaen bobol eraill yn y Carlton Club yn Llundain, ac yn ôl yr honiadau, mae o leiaf un ohonyn nhw’n Aelod Seneddol.

Bu i’r helynt wedi arwain at alwadau i dynnu’r chwip oddi wrtho, a fyddai’n golygu ei fod yn cael ei wahardd o grŵp seneddol y Ceidwadwyr, a’i orfodi i eistedd fel aelod annibynnol.

Un o’r rhai sydd wedi galw am weithredu yw Angela Rayner, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.

“Rhaid i Boris Johnson ddweud sut y gall Chris Pincher barhau i fod yn Aelod Seneddol Ceidwadol o gwbl,” meddai Angela Rayner, a phwysleisio na ellir anwybyddu “ymosodiad rhyw posib”.

“Mae safonau mewn bywyd cyhoeddus wedi dirywio’n llwyr dan ofal y Prif Weinidog.”