Bydd Prif Weinidog Cymru yn cael ei urddo i Orsedd Cymru.
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gofalwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Rheng Flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 5), mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi y bydd Mark Drakeford yn cael ei urddo eleni ar ran holl weithwyr allweddol Cymru.
Bydd yn cael ei urddo ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ar fore dydd Gwener, Awst 5.
Dywed Archdderwydd Gorsedd Cymru, Myrddin ap Dafydd, ei bod hi’n bleser cyhoeddi bod y Prif Weinidog wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â’r Orsedd.
“Mae cyfraniad ein gweithwyr allweddol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn aruthrol, ac rydyn ni yng Ngorsedd Cymru am ddangos ein gwerthfawrogiad a nodi ein diolch i bob un fu’n gweithio mor galed dros gyfnod y pandemig,” meddai.
“Mae’n bleser felly cyhoeddi bod Prif Weinidog ein gwlad, Mark Drakeford, wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â Gorsedd Cymru ar ran ein holl weithwyr allweddol a’n gwirfoddolwyr.
“Wrth groesawu’r Prif Weinidog i’n Gorsedd, byddwn yn diolch iddo am ei arweiniad urddasol a gofalus drwy flynyddoedd anodd Covid-19 a’r cyfnodau clo, gan dorri llwybr addas i anghenion a phryderon pobol ein gwlad.”
‘Braint anhygoel’
Wrth ymateb i’r gwahoddiad, dywed Mark Drakeford ei bod hi’n “fraint anhygoel” derbyn yr anrhydedd ar ran holl weithwyr allweddol Cymru.
“Fe wnaethon nhw gymaint i’n cynorthwyo ni gyd yn ystod y pandemig,” meddai.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n diolch iddyn nhw am eu gwaith arwrol yn ystod cyfnod caled iawn i bawb.”
Bydd y Prif Weinidog yn cael ei urddo am 11yb ar y dydd Gwener ynghyd â degau o enwau eraill, gan gynnwys Robat Gruffudd, sefydlydd Y Lolfa; Tad Mistar Urdd a’r artist Wynne Melville Jones; Emyr Llywelyn, ymgyrchydd iaith a sefydlydd Mudiad Adfer; a Siôn Jobbins, cyn-gadeirydd Yes Cymru.
Cafodd yr Urddau eu cyhoeddi yn haf 2020, ond oherwydd Covid-19, eleni yw’r cyfle cyntaf i’w hurddo.