Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gyda Sioned Wyn Roberts, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i nofel Gwag y Nos.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…
Mae Gwag y Nos yn antur hanesyddol wedi’i gosod yn y flwyddyn 1867. Magi ydy’r prif gymeriad – mae hi yn byw yn Wyrcws Gwag y Nos, lle mae Nyrs Jenat greulon yn teyrnasu. Ond mae rhywbeth mawr o’i le ac mae’n rhaid i Magi’r rebel fod yn ddewr er mwyn darganfod y gyfrinach ac achub ei ffrindiau. Mae’n cynnwys themâu fel cyfeillgarwch a dewrder, ond hefyd tlodi a chreulondeb yn oes Fictoria. Dim ffuglen ydy’r enghreifftiau o ddisgyblu plant yn y Wyrcws, mae rheiny wedi dod o ddogfennau gwreiddiol am dlotai y cyfnod – fyswn i ddim wedi gallu dychmygu creulondeb fel yna.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel?
Mi ddechreuais i sgrifennu’r nofel ar ôl darganfod bod fy nheulu i wedi gorfod mynd i fyw yn Wyrcws Pwllheli am eu bod nhw mor dlawd. Felly roedd fy hen hen Nain a’i phump o blant yno, ac fe wnes i ddod o hyd i’w henwau nhw yng nghyfrifiad 1881. I fi, mae hanes yn sbarduno syniadau ac yn tanio’r dychymyg. Ac mae hi’n ddifyr gweld pa mor wahanol, a pha mor debyg, oedd bywydau plant ers talwm o’i gymharu â’n bywydau ni heddiw.
Beth yw neges y nofel?
Y neges mae’n siŵr ydy – weithiau mae’n rhaid bod yn ddewr ac arwain hyd yn oed pan ti ddim eisiau gwneud hynny. Dwi’n licio meddwl amdani fel Girl-power Fictorianaidd.
Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?
Jyst ewch amdani, dechrau sgrifennu a gweld be ddaw. Peidiwch â disgwyl i’r stori fod yn berffaith y tro cyntaf. Mae hyd yn oed awduron profiadol yn gorfod gweithio ar nofel – dwn i ddim faint o weithiau wnes i ddrafftio a mireinio cyn fy mod i’n fodlon. Ac yn y diwedd, pan oedd stori Magi wedi’i gorffen a phopeth yn ei le, cefais i deimlad od iawn – roedd hi fel petai Magi yn fan yna ar ddiwedd y nofel, yn aros amdana i ac yn dweud… ‘Wrth gwrs dyna oedd fy stori i, lle ti di bod mor hir?’ Fyswn i erioed wedi dechrau sgwennu oni bai fy mod i wedi mynd ar gwrs yng nghanolfan Tŷ Newydd tua thair blynedd yn ôl, mae bod yng nghwmni awduron yn ysbrydoli ac yn rhoi hyder i rywun roi cynnig arni. Dydw i ddim wedi stopio ers hynny!
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones oedd un o fy hoff lyfrau fel plentyn, mor falch ei fod yn ôl mewn print.