Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gyda Non Parry, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i hunangofiant, Paid â Bod Ofn.

Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…

Cofnod o brofiadau personol sy’n cynnwys cyfnodau o iselder, gorbryder, galar, magu plant ac yn y blaen. Mae ychydig o hanes Eden a hefyd casgliad o ddiolchiadau i rai o’r ffrindiau a theulu sydd wedi’n siapio i, cefnogi fi a’n derbyn i am bwy ydw i! Y gobaith oedd ailddatgan i’r darllenwyr nad ydyn nhw ar ben eu hunain, eu bod nhw’n ddigon ac i beidio bod ofn siarad am iechyd meddwl.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r llyfr oedd yr ymateb anhygoel o garedig gefais i ar ôl sgrifennu blog i Meddwl.org yn siarad am fy mhroblemau gydag iechyd meddwl. Daeth o’n amlwg iawn bod pobol eisiau ac angen agor y sgwrs ymhellach, a dw i’n angerddol iawn am wneud hynna.

Beth yw neges y llyfr?

Neges y llyfr yw bod bywyd yn gallu taflu lot atom ni ac yn aml iawn dyddiau yma rydyn ni’n cael negeseuon o bob man bod angen i ni fod yn ‘fwy’ rhywbeth neu’n ‘llai’ rhywbeth arall. Ond y gwirionedd ydy rydyn ni gyd yn ddigon fel ydyn ni. Ac eto neges y llyfr yw i beidio bod ofn siarad am iechyd meddwl.

Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?

Gan mai dyma’r llyfr cyntaf i mi sgrifennu doedd gen i ddim syniad rili ble i ddechrau! Ond dw i’n rili credu fod gan bawb stori a bod straeon bawb yn bwysig a gwerthfawr ac yn help inni gyd ddysgu mwy am sut i nafigetio bywyd ychydig! Felly fy nghyngor i yw yn syml… jyst sgrifennwch! Dyna wnes i! Peidiwch â gorfeddwl ac os mae’n dod o’r galon bydd o’n siŵr o daro cloch efo rhywun.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Does dim llyfr penodol ond dw i’n ffan mawr o hunangofiannau, yn enwedig, yn amlwg, rhai sydd wedi cyffwrdd ar iechyd meddwl fel Mad Girl gan Bryony Gordon

Gallwch ddarllen mwy am Paid â Bod Ofn a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!