Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad “gwleidyddol amlwg” i urddo Prif Weinidog Cymru’n aelod o’r Orsedd, “mudiad sydd wedi’i ariannu gan drethdalwyr”.
Dywed y blaid y byddai “cynrychiolydd anwleidyddol yn fwy priodol, llai pryfoclyd”.
Bydd Mark Drakeford yn cael ei urddo mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar Awst 5, digwyddiad sydd wedi derbyn £600,000 o arian trethdalwyr gan Lywodraeth Lafur Cymru, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.
Maen nhw wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw record Covid-19 y Prif Weinidog yn “rywbeth i’w ddathlu”, gan mai Cymru sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig.
Maen nhw’n dweud y dylid fod wedi urddo cynrychiolydd gweithwyr allweddol neu’r teuluoedd sy’n galaru, gyda’u hymgyrch hwythau i sicrhau ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru “wedi’i hatal” gan y Prif Weinidog.
Dywed Archdderwydd Gorsedd Cymru, Myrddin ap Dafydd, ei bod hi’n “bleser” cyhoeddi bod y Prif Weinidog wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â’r Orsedd.
“Mae cyfraniad ein gweithwyr allweddol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn aruthrol, ac rydyn ni yng Ngorsedd Cymru am ddangos ein gwerthfawrogiad a nodi ein diolch i bob un fu’n gweithio mor galed dros gyfnod y pandemig,” meddai.
“Mae’n bleser felly cyhoeddi bod Prif Weinidog ein gwlad, Mark Drakeford, wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â Gorsedd Cymru ar ran ein holl weithwyr allweddol a’n gwirfoddolwyr.
“Wrth groesawu’r Prif Weinidog i’n Gorsedd, byddwn yn diolch iddo am ei arweiniad urddasol a gofalus drwy flynyddoedd anodd Covid-19 a’r cyfnodau clo, gan dorri llwybr addas i anghenion a phryderon pobol ein gwlad.”
Ond dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod Vaughan Gething wedi dweud pan oedd e’n Ysgrifennydd Iechyd y byddai’n “ffôl” dilyn cynllun adfer cyn diwedd y pandemig.
Erbyn hyn, mae un ym mhob pump o bobol Cymru ar restr aros, ac un ym mhob pedwar yn aros ers dros flwyddyn, meddai’r blaid.
‘Synnu’n fawr’
“Rwy’n synnu’n fawr fod yr Eisteddfod wedi cymryd rhan mewn cam gwleidyddol amlwg fel hyn,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae hwn yn sefydliad diwylliannol sy’n cael ei barchu a’i garu’n genedlaethol y bydd ei aelodau’n siomedig, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr iaith neu’r diwylliant Cymraeg, fod y Prif Weinidog presennol yn cael ei anrhydeddu am resymau gwleidyddol tra bod yr Eisteddfod yn derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus.
“Pe bai’r Eisteddfod wir am anrhydeddu’r gweision cyhoeddus oedd wedi ein tywys ni drwy’r pandemig, efallai y dylen nhw eu hanrhydeddu nhw’n uniongyrchol neu o leiaf gynrychiolydd anwleidyddol – byddai hyn yn fwy priodol na’r Prif Weinidog, dewis pryfoclyd, oedd wedi siomi gweithwyr allweddol.
“Wedi’r cyfan, fe wnaeth arweinyddiaeth urddasol a gofalus fondigrybwyll arwain at y gyfradd farwolaethau Covid uchaf yn y Deyrnas Unedig, rhestr aros hunllefus o hir y Gwasanaeth Iechyd, ac atal ymchwiliad Covid penodol i Gymru – byddai’r Grŵp Cyfiawnder i Deuluoedd sy’n Galaru yn ddewis gwell ar gyfer yr anrhydedd hon.
“Hefyd, dw i ddim yn siŵr fod blaenoriaethu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd dros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion a’r economi’n gallu cael ei ystyried yn llwybr addas i fynd i’r afael ag anghenion a phryderon Cymru fel mae’r Eisteddfod yn ei ddweud – oni bai mai dyna farn wleidyddol pwysigion yr Eisteddfod.”
‘Nid oes a wnelo gwleidyddiaeth plaid ddim oll â hyn’
“Gorsedd Cymru sy’n cyflwyno’r anrhydedd hon i Mr Drakeford, nid yr Eisteddfod Genedlaethol, ac nid oes a wnelo gwleidyddiaeth plaid ddim oll â hyn,” meddai llefarydd ar ran yr Orsedd.
“Rhoddodd Mr Drakeford ofal am weithwyr a phobol yn uchaf ar ei restr blaenoriaethau trwy gydol y pandemig, ac mae’r rhain yn egwyddorion a fu’n ganolog i Orsedd Cymru erioed.”
Mewn ail ddatganiad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymddiheuro am beidio egluro bod yr Eisteddfod a’r Orsedd yn ddau sefydliad ar wahân.