Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru’n dathlu 100 mlynedd, a thra hoffai’r Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani – RCAC – longyfarch a chydnabod y garreg filltir hon o ganrif rhwng 1922 a 2002, a’r strategaethau a chynlluniau gweithredu niferus sydd wedi’u cyflwyno ers datganoli bum mlynedd ar hugain yn ôl, sydd wedi’u hanelu at gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, ni fu unrhyw gyfraith na fframwaith cyfreithiol sydd yn gwarchod hawliau ac yn amlinellu cyfrifoldebau cymunedau Romani a Theithwyr yng Nghymru’n benodol, dim sail cyfansoddiadol i warchod yr ieithoedd Romani na Theithwyr Gwyddelig, dim sail i gyflwyno agweddau ar ddiwylliannau a hunaniaethau Romani a Theithwyr mewn addysg ar unrhyw lefel yng Nghymru, ddim hyd yn oed gyda chyrsiau prifysgol mewn Astudiaethau Romani (fel sy’n bodoli mewn prifysgolion yn Lloegr a’r Alban).
RCAC yw’r unig sefydliad sy’n cyflwyno cyrsiau byrion a hyfforddiant rheolaidd yn niwylliant, hanes, ieithoedd a dealltwriaeth o gymunedau Romani a Theithwyr, i bobol broffesiynol, swyddogion llywodraeth, sefydliadau y tu allan i’r Llywodraeth a staff y Trydydd Sector, ac ysgolheigion ac ymchwilwyr yn y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol. Hwn yw’r unig sefydliad sy’n cwblhau’r math o ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy’n cynnig data dibynadwy o’r cymunedau a’u haelodau, i lywio a dylanwadu ar strategaethau’r Llywodraeth megis Cynllun Gwithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru, neu Cymru Wrth-Hiliol erbyn 2030.
Fel arall, byddai’r strategaethau diweddar hyn yn cael eu llesteirio drwy ddiffyg ymgynghoriad uniongyrchol ac ystyrlon gyda phobol Romani a Theithwyr, y math o ymgynghoriad na all neb ond RCAC ei gwblhau drwy ein Pencampwyr Cymunedol (sydd wedi’u hyfforddi mewn methodoleg holiaduron gwyddorau cymdeithasol), wedi’i arwain gan academyddion Romani a Theithwyr blaenllaw sy’n gymwys yn eu meysydd eu hunain – hanes, cymdeithaseg, ethnograffi ac astudiaethau diwylliannol, fel Dr Adrian Marsh (un sydd o dras Gymreig/Sipsiwn-Teithwyr). Mae Dr Marsh wedi datblygu a chyflwyno’r Cwricwlwm Astudiaethau Romani cyntaf ar gyfer Addysgwyr Cynradd ac Uwchradd, sydd ar gael gan RCAC ac wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ond sydd heb ei fabwysiadu ganddyn nhw i’w ddefnyddio gan athrawon mewn ysgolion cynradd nac uwchradd.
Hefyd, RCAC yw’r unig fudiad sy’n comisiynu gwaith newydd gan artistiaid a phobol greadigol yn y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, drwy’r rhaglen Gypsy Maker sydd wedi’i noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac sydd yn ei bumed cyfnod (gyda’r arddangosfa bresennol o weithiau yn y Ffatri yn y Porth). Mae Dr Rosamaria Kostic Cisneros, Dr Daniel Baker, Imogen Bright Moon MA a Corrina Eastwood i gyd ynghlwm wrth y cynhyrchiad creadigol eleni. RCAC hefyd yw’r unig sefydliad sy’n cynllunio a chyflwyno digwyddiadau blynyddol rheolaidd i ddathlu Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan ymgysylltu ag ysgolion ac addysgwyr i wneud hynny. Mae cenedlaethau newydd o artistiaid a pherfformwyr Romani a Theithwyr yn cael eu cefnogi a’u hannog mewn ysgolion drwy’r fath waith (a gweithdai cysylltiedig sy’n cael eu cwblhau gan artistiaid o RCAC).
Felly tra hoffai RCAC ymuno ag eraill i ddathlu llwyddiannau Llafur Cymru dros y ganrif ddiwethaf, hoffai hefyd godi mater buddsoddiadau mewn cymunedau anghyfartal yn ystod yr un cyfnod a nodi bod buddsoddiad Llafur, yn y gorffennol, mewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi bod yn fach iawn o’i gymharu â chymunedau eraill, a bod y math o ddarpariaeth mae cymunedau eraill wedi elwa arni, fel canran, yn llai na 0.5% yn flynyddol o’i gymharu â chymunedau eraill, gan gynnwys cymunedau ethnig lleiafrifol, yng Nghymru. Mae llety, iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gofal henoed, iechyd menywod, darpariaeth gymunedol yn y blynyddoedd cynnar a chwarae, a datblygiad blynyddoedd cynnar i gyd wedi gweld buddsoddiad bach iawn yn benodol ar gyfer cymunedau Romani a Theithwyr o’i gymharu â grwpiau eraill yn y gymdeithas yng Nghymru, gan adael Sipsiwn a Theithwyr ar ei hôl hi ac ymhell y tu allan i wead a brethyn cymdeithas Cymru dros y gan mlynedd ddiwethaf…