Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gyda Iestyn Tyne, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’i gyfrol o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol.

Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…

Cyfrol o sonedau ydi Stafelloedd Amhenodol – nid sonedau rheolaidd ond yn hytrach sonedau ‘llaes’ heb fydrau na phatrymau odli penodol. Felly mae hi’n rhannol yn gyfrol am arbrofi hefo brics a mortar fy marddoniaeth – y strwythur a’r mesurau sy’n llestri i’r hyn dwi’n ceisio ei fynegi; ac mae hi hefyd yn gyfrol am ein gwneuthuriad ninnau fel pobol, a chwarae o gwmpas hynny mewn ffyrdd newydd, gobeithio. O ran themâu, mae ymdopi gyda cholled yn rhedeg drwy’r holl gerddi, gyda’r adrannau yn cyfarch yr argyfwng hinsawdd, galar ar ôl colled, ymgodymu ag elfennau annymunol o’n hanes, a marwoldeb.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Mewn mannau mae hi’n gyfrol fewnblyg iawn, ac mae’r adegau anodd dwi wedi bod drwyddyn nhw o ran fy iechyd meddwl a cholledion dros y blynyddoedd diwethaf yn cyfrannu at hynny; ond mae yna rannau mwy eang eu cwmpas hefyd dwi’n meddwl, wedi eu hysbrydoli gan brotestiadau a mudiadau sydd wedi bod yn sefyll yn ddewr dros ddyfodol y blaned a chydfodolaeth ei phobol. O ran y farddoniaeth ei hun, mi ddylwn i enwi Wanda Coleman a Terrance Hayes, dau fardd o’r Unol Daleithiau, sydd wedi mynd â’r soned gyfoes i gyfeiriadau newydd a chyffrous; eu harbrofi nhw yw sail fy arbrofi innau. Mae’r soned Gymraeg hithau wedi bod yn gyfrwng arbrofi yn ei hanes (gweddol) fyr; a dwi’n aml yn troi at waith Prosser Rhys a T. H. Parry-Williams.

Beth yw neges y llyfr?

Yr hyn yr ydw i’n ceisio ei ddweud, am wn i, yw bod bywyd yn fyr, ond bod amser yn hir.

Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?

Anaml dwi’n ffeindio mai’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl ydi’r ffordd orau o fynegi rhywbeth. Ar yr un pryd, mae modd gorweithio rhywbeth nes eich bod yn colli hanfod yr hyn rydach chi’n ceisio ei ddweud, neu’n anghofio. Mae’n siwr mai yn rhywle’n y canol mae’r magic, felly!

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

American Sonnets for my Past and Future Assassin gan Terrance Hayes.

Gallwch ddarllen mwy am Stafelloedd Amhenodol a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!