Hanan Issa sydd wedi’i henwi’n Fardd Cenedlaethol newydd Cymru.
Bydd hi’n olynu Ifor ap Glyn, sy’n cwblhau ei dair blynedd yn Fardd Cenedlaethol yr haf hwn.
Mae Hanan Issa, a fydd yn y rôl tan 2025, yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd, sy’n un o gyd-olygwyr a chyfranwyr Welsh Plural: Essays on the Future of Wales.
Ymysg ei chyhoeddiadau mae’r casgliad o farddoniaeth My Body Can House Two Hearts, ac roedd hi’n rhan o ystafell awduron cyfres Channel 4, We Are Lady Parts.
Hanan Issa yw cyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From, a derbyniodd gomisiwn 2020 Ffilm Cymru/BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple a chyfle i fod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2021.
‘Ymgysylltu’n greadigol â thraddodiadau a hanes Cymru’
“Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad,” meddai Hanan Issa.
“Mae’r Gymraeg ei hun wedi datblygu law yn llaw â ffurf hynaf y wlad ar farddoniaeth, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ailddyfeisio ffyrdd o ymgysylltu’n greadigol â thraddodiadau a hanes Cymru.
“Yn ogystal, mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o’r byd ac rwyf am rannu’r cysur a’r eglurder y gall ei roi ar adegau o ansicrwydd.
“Yn fwy na dim, dwi am ddal diddordeb ac ysbrydoliaeth pobol fel eu bod yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth o Gymru, gan annog ymdeimlad llawer mwy agored o beth yw Cymreictod.
“Rwyf am annog eraill i weld eu potensial eu hunain fel beirdd a cherdd-garwyr, oherwydd mae barddoniaeth yn cael ei hystyried yn elitaidd neu’n anhygyrch yn rhy aml.
“Rwyf am weithio ar ddatrys camsyniadau ynghylch barddoniaeth fel y gall mwy o bobol ymgysylltu, a chael eu cysuro a’u hysbrydoli gan y llu o bosibiliadau y gall barddoniaeth ei gynnig.
“Rwy’n awyddus i ddathlu’r clytwaith o brofiadau a hanesion sy’n bodoli yng Nghymru.
“Rwyf am ychwanegu at sgyrsiau ynghylch hunaniaeth a pherthyn, yn enwedig wrth sôn am lecynnau natur: sy’n gyffredin iawn yma yng Nghymru.
“Hoffwn barhau â gwaith gwych fy rhagflaenwyr yn hyrwyddo Cymru, Cymreictod, a’r Gymraeg y tu allan i ffiniau’r wlad.
“Rwyf am i bobl adnabod Cymru fel gwlad sy’n llawn creadigrwydd: gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i’w gynnig i’r celfyddydau.”
‘Llais ffres’
Hanan Issa fydd pumed Bardd Cenedlaethol Cymru, gan ddilyn ôl traed Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis.
Dywed Ifor ap Glyn fod Hanan Issa yn “fardd ystyriol a chysylltiedig” a’i fod yn “llawn edmygedd o’i gwaith”.
“Bydd yn dod â llais ffres i’r sgwrs genedlaethol. Croeso mawr iti Hanan!” meddai.
‘Llais traws-gymunedol’
Mae’r prosiect Bardd Cenedlaethol Cymru’n cael ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru ers 2005, ond y tro hwn dechreuodd y broses benodi gyda galwad gyhoeddus am enwebiadau.
Cafodd y penderfyniad ei drosglwyddo i banel dethol, a oedd yn cynnwys Natalie Jermone, asiant llenyddiaeth a Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru; cyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam; Asiant dros Newid Cyngor Celfyddydau Cymru, Andrew Ogun; a Chyfarwyddwr Cyfathrebu a Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ashok Ahir, a wnaeth gyfweld rhestr fer.
Ar ran y panel, dywed Ashok Ahir, fod yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng “ystod amrywiol o arddulliau a lleisiau barddonol”.
“Roedd yn wych gweld y lefel uchel o dalent sy’n gweithio yng Nghymru heddiw,” meddai.
“Mae hwn yn benodiad hynod gyffrous.
“Mae Hanan yn llais traws-gymunedol sy’n siarad gyda phob rhan o’r wlad.
“Bydd hi’n llysgennad gwych i genedl amrywiol ei diwylliant ac eangfrydig.”
‘Gwneud synnwyr o’r byd’
Wrth groesawu Hanan Issa i’r rôl, dywed Claire Furlong, Cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru, fod pob Bardd Cenedlaethol yn ailddyfeisio’r rôl.
“Yng Nghymru, mae ein hangerdd am farddoniaeth yn cael ei gyfleu yn falch yn ein hanthem genedlaethol: ‘Gwlad beirdd a chantorion’,” meddai.
“Mewn cyfnod o ymraniad cynyddol ac ansicrwydd byd-eang, gall barddoniaeth ein cysylltu â’n gilydd a’n helpu i wneud synnwyr o’r byd.
“Gall ein dysgu sut i ddychmygu a pharchu profiadau pobol eraill a chyfleu syniadau cymhleth mewn ffordd sy’n syml ac yn berthnasol i’n bywydau bob dydd.
“Rydym wedi mwynhau dilyn gyrfa wych ac amrywiol Hanan dros y blynyddoedd, ac alla i ddim aros i weld sut y bydd Hanan yn cyfrannu at, ac yn adlewyrchu, ein sgwrs genedlaethol yn ystod ei chyfnod fel ein Bardd Cenedlaethol.”