Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i chwi ddarllenwyr bleidleisio am eich hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy am y llyfrau a’r sgrifennwyr. Dyma sgwrs gyda Luned a Huw Aaron, sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr gyda’u llyfr, Pam?.

Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr…

Llyfr gair-a-llun ydi Pam? sy’n llawn cwestiynau gan fachgen bach am annhegwch ei fywyd fel plentyn. Fe wnaethon ni geisio dal llais plentyn bach direidus ar ffurf odl, a dychmygu rhai o’r pethau fyddai o eisiau eu gwneud, heb reolau rhieni i’w atal. Mae’n siŵr bod y cwestiwn ‘Pam?’ yn fythol ac yn gyfarwydd iawn i unrhyw riant.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cwynion beunyddiol, er enghraifft, pam mai dim ond awr o amser ar y sgrin sy’n cael ei ganiatáu, a chwynion mwy drygionus, fel pam nad oes hawl cuddio pryfaid i lawr ffrogiau chwiorydd bach. Wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, mae’r cwestiynau’n mynd yn fwy ac yn fwy dros ben llestri wrth i’r bachgen leisio ei rwystredigaethau gyda ’Na’ cyson ei rieni. Ar y diwedd, mae yna dro yn y gynffon – ond bydd rhaid ichi ddarllen i weld os mai’r rhieni neu’r plentyn sy’n ennill y dydd!

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Trio darbwyllo plentyn chwech oed i fwyta brocoli neu roi’r gorau i’r sgrin! Ein prif fwriad oedd creu llyfr doniol y byddai rhiant a phlentyn yn mwynhau ei ddarllen gyda’i gilydd, gyda’r stori yn adleisio rhyw gymaint ar eu profiadau nhw.

Beth yw neges y llyfr?

Stori ysgafn ydi Pam? ac nid un sy’n cyfleu neges ddifrifol. Os oes neges o gwbl, efallai mai’r neges yna fyddai bod bywyd fel oedolyn yn gallu bod yn lot o hwyl a bod yna obaith i blant sy’n rhwystredig gyda’u bywydau – bod dyddiau gwell i ddod!

Pa gyngor sydd gennych chi i eraill fyddai’n hoffi dechrau sgrifennu?

1. Cydnabod mai ofn methu ydi’r prif beth (mae’n debygol) sy’n eich stopio chi rhag cychwyn arni.

2. Cychwyn ar yr ysgrifennu heb anelu at berffeithrwydd.

3. Gorffen y prosiect.

4. Symud ymlaen i’r llyfr nesa’!

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

O ran llyfrau gair-a-llun, mae ’na wastad rywbeth i’w ddysgu o’r meistri amlwg – pobl fel Shirley Hughes, Maurice Sendak, Tomi Ungerer, Julia Donaldson a John Burningham, ynghyd â chrëwyr cyfoes fel Beatrice Alemagna, Benji Davies, Gabriel Alborozo a Jon Klassen. O ran pâr priod yn cyd-greu llyfrau i blant, yr ysbrydoliaeth amlwg i ni ydi Janet ac Allan Ahlberg.

Gallwch ddarllen mwy am Pam? a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2022

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ddydd Llun Gorffennaf 11!