Mewn llythyr dychanol ar ei Facebook, sy’n cael ei ailgyhoeddi’n llawn yn Gymraeg gan golwg360, mae’r digrifwr Steffan Alun wedi “ymddiswyddo o’r Cabinet”.
Cafodd y llythyr gan “Steffan Alun BA (hons), Member of Parliament for Lower ‘Afod” ei gyfeirio at Dŷ’r Cyffredin yn “y Llundain ’na, SW1@HoC.com, Tel: iPhone 17 Superpro”.
Dyma’r llythyr yn ei gyfanrwydd:
Gyda chalon un-deg-pedair tunnell rwy’n ysgrifennu i ymddiswyddo o’m swydd yn y Cabinet.
Rwy’ wedi bod wrth fy modd fel AS Torïaidd. Mae wedi gwneud i fi deimlo mor bwysig a chlyfar. Dw i’n cael mynd ar y newyddion ambell waith! Y newyddion go iawn tyfais i lan yn ei wylio. Dw i’n cael mynd i ddweud wrth bobol y dylen nhw feindio’u busnes ynghylch sawl whisgi Penderyn sy’n ormod ar gyfer digwyddiad gwaith. Ac mae ‘gwleidydd’ yn edrych mor dda ar fy CV. Tan 2019, y peth gorau arno fe oedd “wedi cael cyhoeddi llythyr unwaith yng nghylchgrawn Nuts“.
Ac rwy’n falch ohonoch chi am gyflwyno Brexit. Rwy’n gwybod nad yw’r naill na’r llall ohonom wir yn deall y stwff yna, ond dw i’n 99% yn siŵr nad ydyn ni yn yr Undeb Ewropeaidd rhagor, ac mae hynny o’ch herwydd chi, rwy’n meddwl. Yn ystod Covid, fe lwyddoch chi i gyflwyno llawer o arian i lawer o gwmnïau, ac rwy’n dychmygu eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth defnyddiol iawn gyda fe i gyd.
I fi, y Ceidwadwyr erioed fu plaid y lliw glas, a’r llun bach ’na o goeden. Oddi tanoch chi, rwy’ wedi dysgu am Geidwadwyr hanesyddol gwych, fel Winston Churchill, a llawer iawn, iawn, iawn yn rhagor.
Ond nawr, rwy’n credu bod rhaid i fi ymddeol. Dydy Mr Javid ddim yma rhagor, na chwaith (naill ai Mr Raab neu Mr Sunak, anghofiais i ddysgu p’un yw p’un). Mae’n deimlad trist yn y lle yma y dyddiau hyn, a dydy e jyst ddim yn hwyl rhagor. Mae hyd yn oed y Daily Mail yn bod yn angharedig amdanom ni, ac fe wnaethoch chi addo nad oedden nhw’n cael gwneud hynny.
Nid ar chwarae bach rwy’ wedi gwneud y penderfyniad hwn. Roeddwn i wir yn edrych ymlaen at ddyfeisio unedau newydd o fesuriadau, a gwneud i fewnfudwyr fynd i wahanol lefydd, ac efallai hyd yn oed ryw ddiwrnod mynd ar Strictly Come Dancing. Dw i dal heb gwrdd â Gordon Brown, a dw i’n gwybod ei fod e o’r ochr arall, ond fe yw fe ffefryn Mr Johnson. Roeddwn i wir eisiau gwneud moddion yn ddrud iawn, a’i gwneud hi’n anodd i fod yn drawsryweddol, a mynd i’r Ail Ryfel Byd eto fel roeddech chi eisiau gwneud o hyd.
Ond rhaid i fi gadw at fy egwyddorion, sef: mae fy ffrindiau’n dweud na fydda i’n cael fy ailethol pe bawn i’n aros, ac os yw hynny’n digwydd, bydd yn rhaid i fi weithio yn siop casys ffôn symudol crand fy nhad, a dim ond oherwydd eich bod chi wedi rhoi’r holl arian yna iddyn nhw i wneud PPE mae ganddyn nhw arian o gwbl.
Bydda i’n parhau i wasanaethu fy etholwyr hyd eithaf fy ngallu, a bydda i’n aros yn y sgyrsiau grŵp ar WhatsApp os yw hynny’n iawn.
Mae’n wir ddrwg gen i,
Steffan.