Ym mis Mawrth eleni, cafodd cynllun ar y cyd rhwng S4C a chwmni dosbarthu a hyrwyddo PYST i gefnogi creu fideos cerddorol annibynnol i artistiaid newydd a chreu cyfleoedd i gyfarwyddwyr ifanc.

Heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 8), mae’r fideo gyntaf wedi’i rhyddhau gyda’r artist ifanc o Fachynlleth, Sachasom, sef Izak Zjalic.

Fe gynigiodd y syniad ar gyfer ‘Agor’ mewn cydweithrediad â chwmni cynhyrchu Pypi Slysh, sef Sam Stevens a Sion Teifi Rees.

PYST sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect gan alluogi deg fideo newydd i gael ei cynhyrchu, gyda £500 yr un, a thargedu artistiaid sy’n cychwyn ar eu taith gerddorol, gyda’r nod hefyd o roi cyfle i dalent cynhyrchu fideo ddatblygu.

‘Dilyn fy mhrofiadau yn y broses greadigol’

Cafodd y fideo ei ffilmio mewn dau leoliad, sef hen dŷ a losgodd i’r llawr, The Vaults ym Mae Caerdydd, a BEWT Studios, meddai Izak Zjalic.

“Roedd creu’r fideo gyda Sam a Siôn o Pypi Slysh yn broses unigryw gan saethu mewn steil eithaf impromptu, yn seiliedig ar y syniad gwreiddol, a chafodd ei ysbrydoli gan y ffilm Climax gan Gaspar Noe.

“Er bod y fideo i ‘Agor’ yn eithaf abstract, trwy’r delweddau a symbolau gwahanol mae yna naratif sy’n dilyn fy mhrofiadau yn y broses greadigol yn creu cerddoriaeth, wrth symud o’r purdeb o greu am fwynhad, i agweddau rwyf wedi etifeddu trwy ddarllen am athroniaeth hauntology a’r pryderon o dyfu fyny.

“Mae hon yn frwydr fewnol sydd yn cael ei chyflwyno dros fy albwm ‘Yr Offerynols Uffernoliadaus!’, gyda’r nod o hybu’r syniad o greu cerddoriaeth sy’n naturiol i ti ac i beidio dilyn agenda unrhyw un arall.”

‘Fideo sy’n gwneud dim synnwyr’

Roedd un hanner o Pypi Slysh, Sam Stevens, wedi clywed am Sachasom yn gynharach yn y flwyddyn ac efo diddordeb gweithio gydag artist arall o ganolbarth Cymru.

“Daeth y gronfa ar gael, ac felly rhoddais wybod i Izak amdani ar ôl i mi daro i mewn iddo ar y stryd,” meddai.

“Wnes i ac Izak gyfarfod ychydig o weithiau dros Zoom i drafod syniadau cyffredinol, yna aeth ychydig wythnosau heibio ac roedd yn barod i saethu.

“Mae’r ddau ohonom mewn i’r un math o sinematograffi ac roedd gan y ddau ohonom ddigon i’w ddweud o ran dylanwad.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gwneud fideos DIY, digymell iawn – heb gyfyngiadau, a gyda chân mor ddiddorol yn strwythurol, fe agorodd y drysau i greu fideo sy’n gwneud dim synnwyr a dweud y gwir.”